Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi darparu system peiriant galw i gleifion i Ganolfan Trin Llygaid Caerdydd ar gyfer Ystafelloedd 7 ac 8 Adran Cleifion Allanol Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yr Adran Offthalmoleg yw’r uned Cleifion Allanol prysuraf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ac mae’n gofalu am fwy na 70,000 o gleifion bob blwyddyn. Oherwydd y pandemig presennol, roedd yn rhaid cyfyngu ar gapasiti’r man aros yn unol â gofynion cadw pellter cymdeithasol a oedd yn cyfyngu ar nifer y cleifion y gellid eu cael ar yr un pryd. Mae’n broblem arbennig yn y Ganolfan Trin Llygaid gan fod y rhan fwyaf o gleifion yn tueddu i fod yn bobl hŷn sy’n aml yn dod i’w hapwyntiad gyda theulu neu ffrindiau.

Gyda chefnogaeth yr elusen, mae system peiriant galw i gleifion wedi cael ei gyflwyno. Mae’r teclyn yn hawdd i gleifion ei ddefnyddio. Bydd y peiriant galw’n cael ei roi i gleifion sy’n cyrraedd eu hapwyntiadau’n gynnar ac yna’n cael eu cynghori i aros yn ymgynullfan Ysbyty Athrofaol Cymru neu mewn man y tu allan lle gellir cadw pellter cymdeithasol yn hawdd. Mae cleifion yn cael eu galw ar y teclyn bum mund cyn eu hapwyntiad i ddychwelyd i’r uned cyn cael eu sgrinio i gael mynediad. Yna mae’r peiriannau galw’n cael eu glanhau’n barod ar gyfer y claf nesaf.

Dywedodd Kath Daniel Dirprwy Reolwr Nyrs y Clinig ” Mae’r peiriannau galw wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi helpu’n arw gyda chadw pellter cymdeithasol drwy leihau nifer y bobl yn y Ganolfan Trin Llygaid. Mae hyn yn gwneud y clinig yn fwy diogel i gleifion a staff. Mae’n haws rheoli’r niferoedd llai yn y man aros sy’n caniatáu i’r cleifion sy’n methu â symud i aros yno, ac mae’r rhai sy’n fwy abl yn gallu cyrraedd mewn pryd.

Mae’n ateb syml ac effeithiol yn ystod y cyfnod hwn, ond heb gyllid gan yr Elusen Iechyd, ni fyddai wedi bod yn bosibl. Rydyn ni ar ddeall bod y system wedi cael ei werthfawrogi’n fawr gan gleifion a staff.”

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.