Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Andrew Crates, Arlwywr ar y Ward yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Chwefror.

Disgrifiwyd Andrew fel rhywun sydd ‘bob tro’n mynd gam ymhellach’ ar bob sifft.

Dywedodd Natalie McCulloch, Cynorthwyydd Adsefydlu Amlbroffesiynol ar gyfer y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc, “Bydd Andrew bob amser yn mynd allan o’i ffordd i gyfathrebu â’n cleifion sydd, gan eu bod wedi cael strôc, yn aml angen dulliau cyfathrebu amgen a digon o amynedd. Bydd hyd yn oed yn cynnig opsiynau sydd ddim ar y fwydlen gyffredinol os yw’n gallu, megis gwneud cwstard i frecwast i glaf sy’n derbyn gofal diwedd oes a fyddai’n bwyta dim byd ond cwstard, a ddim yn digalonni wedyn pan oedd y claf yn llwyddo i fwyta llwyaid neu ddwy yn unig.”

Byddai Andrew yn ymdrechu i gynnig te a choffi i gleifion hyd yn oed os ydynt yn hwyr ar gyfer y rownd, yn enwedig os oedd yn gwybod nad oeddent ar gael bryd hynny. Byddai bob amser yn helpu cydberthnasau lle bo modd, ac yn galw ar staff pan fydd yn gweld claf sydd angen cymorth.

Aeth Natalie yn ei blaen i ddweud, “Mae Andrew yn enaid gwirioneddol ofalgar, a bob amser yno i roi cefnogaeth emosiynol, rhannu geiriau cadarnhaol, a chwtsh o anogaeth i ni i gyd os ydym yn cael diwrnod gwael. Nid yw’n ystyried ei fod yn gwneud unrhyw beth ‘arbennig’ ond mae’r tîm, a’r cleifion yn bwysicach, yn gweld hynny. Droeon, mae cleifion wedi rhoi adborth cadarnhaol ar ei ddull di-ffael wrth erchwyn gwely. Mae’n ymddangos nad yw Andrew byth yn petruso, sydd, yn yr awyrgylch hwn, yn sgil yn fy marn i. Rydym mor ddiolchgar i’w gael yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc.”

Dywedodd Stephen Leach, Rheolwr y Tîm Arlwyo Dros Dro, “Mae Andrew yn aelod gwerthfawr o’r tîm Arlwyo i Gleifion, mae ganddo wybodaeth amhrisiadwy o ofynion dietegol ac mae’n mynd yr ail filltir i ddiwallu dymuniadau, anghenion a gofynion defnyddwyr gwasanaeth.”

Bydd Andrew yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Chwefror ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.