Rhoi

Mae’n bleser gennym gyflwyno Ysbrydolwyd Gan…; arddangosfa o waith a grëwyd gan unigolion sy’n mynychu sesiynau celf creadigol dan arweiniad yr artist Louise Jensen gyda chefnogaeth Adnoddau Iechyd Meddwl 4 Winds dros dymor y Gaeaf/Gwanwyn 2022.

Louise Jensen:

“Wedi ein sbarduno gan ymweliadau ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Gwlyptiroedd Bae Caerdydd, fe ddewison ni’r pethau hynny sy’n rhoi bywyd i ni, sy’n ein tanio a’n cynnal, ac sy’n annwyl i ni fel man cychwyn.

Drwy archwilio ‘Portreadau’, ‘Patrymau mewn Natur’ a’r gallu i gofnodi ‘Y Lle Hwn’, mae dros 25 o gyfranogwyr wedi bod yn ymwneud â’r gwaith i raddau amrywiol dros gyfnod o wyth mis, i adlewyrchu a chrynhoi’r cysylltiadau ystyrlon a wnaed. Rydym wedi archwilio prosesau creadigol gan gynnwys collage 2D a 3D, peintio acrylig ac argraffu mono, gan ysgogi sgyrsiau am les, creadigrwydd a phwysigrwydd cysylltiad, yng ngoleuni’r pethau hynny sy’n parhau i’n hysbrydoli a thrwy’r straeon yr ydym wedi’u rhannu ar hyd y daith.”

Hwyluswyd y prosiect gan Louise Jensen ym Mhafiliwn Bowlio y Grange, Grangetown (https://www.facebook.com/louisejensenstiwdioarts)

mewn cydweithrediad ag Adnoddau Iechyd Meddwl 4Winds (https://4winds.org.uk)

Ariannwyd y prosiect trwy raglen Celf a’r Meddwl I Arts and Minds, menter gan Gyngor Celfyddydau Cymru / Sefydliad Baring, a’i gefnogi gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.