Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gomisiynu a chefnogi prosiect ar y cyd rhwng yr artist Louise Jensen ac Adnoddau Iechyd Meddwl 4 Winds, yn rhan o fenter Cyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, Celf a’r Meddwl | Arts and Minds.
Mae’r fenter ariannu newydd hon yn galluogi Tîm y Celfyddydau i gefnogi rhwydwaith o artistiaid a gweithwyr iechyd proffesiynol i gyd-greu a chyflwyno ymyrraeth gelfyddydol arloesol, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i oedolion sy’n gwella ac sydd angen cymorth iechyd meddwl, adeiladu sgiliau bywyd a rhwydwaith o gefnogaeth o fewn ein cymunedau.
Mae ein prosiect, trwy ‘Celf a’r Meddwl’, yn cysylltu darpariaeth iechyd meddwl sylfaenol ac eilaidd gyda’r gymuned a 4Winds; elusen iechyd meddwl annibynnol, a arweinir gan y defnyddiwr sy’n gweithio ar wella iechyd meddwl a lles yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Wrth weithio ar y cyd â 4 Winds, dechreuodd Louise gynnal sesiynau celfyddydau creadigol ym Mhafiliwn Bowlio Gerddi Grange ym mis Rhagfyr, ac mae hi bellach wedi cwblhau ail gam y prosiect;
Ysbrydolwyd Gan…
‘Rydym newydd gwblhau ein hail gam o’r prosiect ‘Ysbrydolwyd Gan…’ lle rydym yn archwilio’r holl bethau hynny sy’n ein hysbrydoli i gyrraedd gam ymhellach, y pethau hynny sy’n rhoi bywyd i ni. Wedi’i sbarduno gan ymweliad ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, dechreuom drwy greu portreadau blwch matsis bach o’r bobl sy’n ein hysbrydoli, ac yn fwy diweddar rydym wedi bod yn archwilio’r pethau mewn natur yr ydym yn eu mwynhau ac sy’n ein cynnal drwy wahanol dechnegau monoprint.
Hyd yn hyn, rydym wedi cael dros ugain o gyfranogwyr yn ymuno ar ryw adeg neu’i gilydd ac rydym wedi gweld darnau hyfryd o waith ar hyd y daith. Mae grŵp craidd wedi bod yn mynychu bron pob sesiwn a dros y mis diwethaf yn benodol rydym wedi llwyddo i ddatblygu sgiliau ac archwiliadau newydd o wythnos i wythnos.
Soniodd un o’r cyfranogwyr am ‘ba mor dda oedd cael rhywbeth gwahanol a chreadigol i ganolbwyntio arno, i weld proses greadigol pobl eraill ac amrywiaeth yr hyn sydd wedi dod ohono.’
Un o elfennau pwysicaf y broses greu yma yw ceisio cyflwyno ffyrdd o weithio sy’n cynnal ein diddordeb, heb ormod o ofn methu. Rwy’n gwneud fy ngorau i annog ysbryd o fod yn chwareus ac arbrofi, gyda chyn lleied o bryder am y canlyniad â phosibl. Mae’r llais bach hwnnw y tu mewn i ni bob amser sydd eisiau i ni feirniadu ein hunain, a chymharu ein hunain ag eraill, sydd ddim o fudd i neb. Drwy feithrin ein gallu i weld harddwch yn y manylion bach hynny, a fyddai’n cael eu colli fel arall, rwy’n gobeithio cynnig ffyrdd o synnu ein hunain a chael mewnwelediad hyfryd i’n proses ein hunain. I gael ein hysbrydoli gennym ni ein hunain!!
Bydd rhan olaf y prosiect yn cael ei chynnal ym mis Mai.’
– Louise Jensen, Artist
Mae’r sgyrsiau creadigol a’r sesiynau celf yn agored i bawb, ac yn gweithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Os hoffech chi ymuno, e-bostiwch 4 Winds i gofrestru ar gyfer y sesiynau: contact@4winds.org.uk
Neu cysylltwch â Louise Jensen: stiwdio3@gmail.com i gael rhagor o wybodaeth am ei hymweliadau â’r amgueddfa a’i gweithdai.
I ddysgu rhagor am Raglen y Celfyddydau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ewch i: http://www.cardiffandvale.art