Rhoi

Creadigrwydd ar gyfer Lles
SHED Gwasanaeth ar gyfer Anhwylderau Bwyta Risg Uchel
Anadlu’n Greadigol

Dros y chwe mis diwethaf daeth cyfranogwyr ynghyd mewn sesiynau wythnosol i archwilio gwahanol bynciau a ffurfiau celf e.e. ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, animeiddio, celf yn ogystal â gwahanol dechnegau ymlacio.

Yn ystod un sesiwn buom yn trafod aros am apwyntiad meddygol, ac mae llawer yn cael yr amser yn yr ystafell aros yn anodd iawn. Buom yn siarad am yr hyn a allai ei gwneud yn haws i gleifion a beth allai eu helpu i ddelio â gorbryder a gorlwytho synhwyraidd ystafell aros ysbyty. Fe wnaethom greu llyfryn llawn gwaith celf, ysgrifennu creadigol, delweddau a gweithgareddau sydd hefyd yn cydnabod heriau’r daith adfer

‘Rydw i mor falch ohonot ti
Mae aros yma yn gamp
Mae’n beth anodd iawn i’w wneud
I aros ac i barhau i ymladd
Dwi’n gwybod
Achos fe wnes i aros yma
Yn union fel ti.’

(Tudalen gyntaf Llyfryn ‘Yr Ystafell Aros’)

Fe wnaethon ni greu gofod diogel, daeth ein sesiynau yn rhan bwysig o wythnos ycyfranogwyrac yn ffocws cadarnhaol yn eu bywydau.

Roedd yr amser a dreuliwyd gyda’i gilydd yn caniatáu i’r cyfranogwyr edrych y tu hwnt i’w diagnosis, adeiladu ar eu cryfderau a dysgu mecanweithiau ymdopi newydd. Roedd creu llyfryn i helpu eraill hefyd yn rhoi ffocws ystyrlon i’r grŵp, yn gyfle i ddathlu eu doniau creadigol ac i weithio fel tîm.

Adborth gan gyfranogwyr:

“Llwyddodd y grŵp hwn i fynd â fi yn ôl at gelf eto.”

“Mae’r grŵp yn galonogol iawn, hefyd mae cyfarfod â’r lleill wedi bod yn fuddiol iawn.”

“Mae’r grŵp celf i mi wedi bod yn ofod i anadlu, lle diogel i fod, dwi wrth fy modd gyda’r amrywiaeth o ffyrdd y gallaf fod yn greadigol, mewn lleoliad ymlaciol, bod gyda phobl nad oes angen unrhyw esboniad arnynt.”

“Rwyf wedi dechrau bod yn greadigol eto yn y sesiynau ac yn ystod yr wythnos.”

Adborth gan y sefydliad partner (SHED):

“Mae’n wych gweld y cyfranogwyr mewn cyd-destun gwahanol, maen nhw gymaint yn fwy agored, yn cymryd rhan lawn ac wedi ymlacio, a doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor dalentog ydyn nhw i gyd.”

Mae’r gwasanaeth ar gael yn Gymraeg a Saesneg. I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect cysylltwch â Katja katja@breathecreative.co.uk

Ariannwyd y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Sefydliad Baring a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Anadlu’n Greadigol 2023

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.