Bu Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda’r Tîm Diabetes Pediatrig, BIPCAF, a Flossy and Boo Ltd., cwmni theatr o dde Cymru o fri rhyngwladol, i greu’r prosiect T1me For Me.
Roeddem wrth ein bodd yn cael y cyfle i weithio gyda Flossy and Boo, a ddarparodd weithdai celfyddydau creadigol i grŵp o bobl ifanc â diabetes Math 1. Roedd y prosiect yn galluogi pobl ifanc i ddod at ei gilydd a chreu rhywbeth newydd, gan ddefnyddio eu dychymyg a’u sgiliau ysgrifennu a pherfformio anhygoel.
Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y prosiect ac i wrando ar y podlediad gwych a grëwyd gan yr awduron a’r perfformwyr ifanc.
Ariannwyd y prosiect drwy Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o’r prosiect Lle i Dyfu