Rhoi

Diolch i Katie, Tom a Will, a drefnodd y trydydd digwyddiad Run for Charli, gan ddod â’r gymuned ynghyd i gymryd rhan mewn her 24 awr arall. Ar ôl llwyddiant y llynedd, cawsant eu hysbrydoli i barhau i godi arian ar gyfer y Gronfa Bywyd Gwell gyda’u ffrindiau, eu teulu ac unrhyw un arall a oedd yn dymuno cymryd rhan.

Mae’r digwyddiadau wedi eu trefnu er cof am Charli Davies, a gafodd ddiagnosis o Ffeibrosis Systig yn 2 oed. Yn 2015, cafodd Charli drawsblaniad ysgyfaint dwbl a oedd yn llwyddiant mawr ac a alluogodd Charli i fyw bywyd llawn eto, ond yn anffodus ym mis Hydref 2017 bu newid cyflym yng nghyflwr Charli ac, yn drist iawn, bu farw yn dilyn brwydr hir a dewr.

Mae Tom, Will a Katie wedi bod yn trefnu’r digwyddiadau Run for Charli dros y 3 blynedd diwethaf i ddathlu pa mor arbennig oedd Charli, ac i godi ymwybyddiaeth o anawsterau byw gyda Ffeibrosis Systig.

Dywedodd y codwyr arian angerddol: “Dyma’r drydedd flwyddyn i ni gynnal digwyddiad Run for Charli, ac maen nhw’n gwella bob tro. Roeddem yn meddwl mai dim unwaith y byddai ‘24 hours for Charli’ yn cael ei gynnal, pan redodd Tom a Will lwybr Richard Burton yn barhaus am 24 awr y llynedd. Fodd bynnag, gan fod y prosiect wedi dechrau cystal, fe benderfynon ni barhau gyda ‘24 hours for Charli’, a threfnu ras gyfnewid 24 awr ar gyfer eleni.”

“Crëwyd Run for Charli i gadw’r atgof am Charli yn fyw, codi ymwybyddiaeth o Ffeibrosis Systig, a chodi arian ar gyfer y Gronfa Bywyd Gwell. Daeth y gymuned gyfan ynghyd i’n cefnogi ac mae’r adborth wedi bod yn anhygoel.”

Mae’r tîm wedi trefnu her codi arian arall ar gyfer eu cymuned frwdfrydig o gefnogwyr! Maent yn dod â’u teulu a’u ffrindiau ynghyd i gymryd rhan yn nigwyddiad #366Days4Charli, i gerdded, loncian neu redeg llwybr 10k Richard Burton bob dydd tan y brif ras gyfnewid yn 2024.

Mae pob cyfranogwr yn cyfrannu £1 fesul lap ac maent yn anelu at 1000 lap. Os hoffech gefnogi’r tîm ymroddedig hwn o godwyr arian, gallwch ymuno i gerdded/loncian/rhedeg lap, neu gyfrannu trwy eu tudalen JustGiving.

Llongyfarchiadau mawr i Katie, Tom, Will a’r holl gyfranogwyr am eu cefnogaeth barhaus i’r Gronfa Bywyd Gwell. Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon iddynt am helpu i newid bywydau’r rhai sy’n byw gyda Ffeibrosis Systig.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.