Ym mis Gorffennaf 2021, fe gymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gynnig i wella ardal yr ardd y tu ôl i’r Cwtch. Mae’r Cwtch, ar Ward Dwyrain 18 yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn ystafell eistedd yn arddull y 1950au, gyda chwaraewr recordiau, cabinetau gwydr ac addurniadau sy’n adlewyrchu’r cyfnod i ymgysylltu â chleifion dementia a’u hatgofion. Roedd Karen Jones, Rheolwr y Tîm Gweithgareddau, wedi gwneud cais i ddatblygu’r ardal awyr agored y tu ôl i’r Cwtch a fyddai’n gwella profiad staff a chleifion ymhellach.
Bydd y gwelliannau i’r Ardd Cwtch yn cynnig ardal fywiog a hamddenol i’r cleifion ei defnyddio fel noddfa, a fydd yn eu galluogi i gael seibiant o amgylchedd prysur yr ysbyty i fyfyrio. Mae’r Tîm Gweithgareddau a’r cleifion hefyd wedi bod yn defnyddio’r ardal fel prosiect garddio ar raddfa fach dros y 2 flynedd ddiwethaf, a hoffai’r tîm ei ddatblygu trwy blannu llystyfiant sy’n gyfeillgar i wenyn a dysgu sgiliau garddio pellach i’r cleifion er mwyn iddynt allu eu defnyddio gartref.
Yn ogystal â gosod cwpwrdd storio, ardal gysgodol a mainc bren yn yr ardd, mae cyllid hefyd wedi’i roi i greu murlun lliwgar ac ysbrydoledig i wella ardal yr Ardd Cwtch ymhellach. Yn flaenorol, roedd yr ardal y tu allan wedi’i chau gan ffens fetel fawr, ond mae panelau bellach wedi’u gosod i ddal y gwaith celf, a rhoi mwy o breifatrwydd i’r cleifion wrth iddynt ddefnyddio’r ardd i ymlacio. Wedi’i greu gan Amelia Unity, mae’r paentiad llachar yn cynnwys golygfeydd o natur yn ffynnu, a bydd yn cyd-fynd â’r gweithgareddau garddio a fydd yn digwydd yn yr Ardd Cwtch.
Dywedodd Karen Jones, Rheolwr y Tîm Gweithgareddau: “Yn ogystal â’r awyr agored, awyr iach a garddio, gall celf leddfu teimladau o orbryder, straen a’r teimlad o fod yn gaeth pan yn treulio llawer o amser dan do. (…) Bydd ychwanegu’r gwaith celf i’r “Ardd Cwtch” yn darparu’r lle pwysig hwnnw i ymgysylltu, cael eich cynnwys, dysgu sgiliau newydd neu hunanfyfyrio.”
Cafodd prosiect Gardd Cwtch gefnogaeth gan Banel Cynigion Loteri’r Staff gan ei fod yn gwella profiad staff a chleifion trwy ddarparu gofod sy’n annog pobl i ddysgu sgiliau newydd mewn lleoliad awyr agored. Mae cynnwys y murlun hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar les staff a chleifion, trwy greu amgylchedd tawel a lliwgar sydd eisoes wedi plesio staff a chleifion.
Pam ddylech CHI gefnogi’r Loteri’r Staff!
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.
Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.
Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?