
Diolch am gefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro eleni.
Wrth i ni edrych yn ôl ar 2021, yn ystod y pandemig, mae ein codwyr arian wedi bod yn ymgymryd â heriau anhygoel fel Her y Tri Chopa, seiclo o Ogledd i Dde Cymru a cherdded 100,000 o gamau mewn diwrnod, ymhlith nifer o rai eraill.
Mae’r holl roddion rydym wedi eu derbyn eleni wedi helpu i wella cyfleusterau staff, darparu offer newydd, a threfnu digwyddiadau fel Gwiriadau Cyflwr Beiciau. Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain o sut yr oeddem yn gallu helpu ein cleifion a staff gwych Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Byddwn yn dechrau’r flwyddyn newydd gyda The Prynhawn yng Ngwesty’r Coal Exchange i godi arian ar gyfer Apêl Prop. Gallwch archebu eich bwrdd yma.
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am eich cefnogaeth, a dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!