Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Michelle Fowler, Pennaeth Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf.

Drwy gydol ei gyrfa nodwyd bod Michelle bob amser yn rhoi’r claf wrth wraidd yr hyn y mae’n ei wneud, ni waeth pa rôl y mae’n ei chyflawni. Yn flaenorol, tra’n gweithio fel Rheolwr Gwasanaethau Gwirfoddoli, datblygodd Michelle lawer o’r rolau i wirfoddolwyr a ddefnyddir yn y Bwrdd Iechyd heddiw. Mae’r rhain yn gwella profiad y claf ac yn mynd i’r afael â phroblemau unigedd a diflastod a deimlir yn aml gan gleifion sydd yn yr ysbyty.

Dywedodd Suzie Becquer-Moreno, Arweinydd Gofalwyr, “Yn ystod y pandemig, daeth Michelle yn Bennaeth Profiad y Claf a gweithiodd yn ddiflino i roi mentrau ar waith i wella profiad nid yn unig cleifion ac ymwelwyr ond hefyd staff yn ystod y cyfnod anodd a thrallodus hwn. Un enghraifft oedd datblygu rôl Gweithiwr Cymorth Profiad y Claf ar gyfer myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr meddygol a wnaeth gefnogi cleifion a theuluoedd drwy drefnu ymweliadau rhithwir a chyfeillio pan oedd cyfyngiadau ar ymweliadau.”

Mae Michelle yn parhau i hyrwyddo’r agenda adborth a’r sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig i Mi’, gan sicrhau bod llais y claf yn cael ei gynnwys yn yr holl fentrau gwella y mae hi’n ymwneud â nhw.

Ym mis Chwefror 2024, bydd Michelle yn dathlu 40 mlynedd o wasanaeth! Diolch yn fawr am dy ymroddiad i’r GIG!

Bydd Michelle yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Gorffennaf ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.