Rhoi

Mae Dydd Gŵyl Dewi 2023 yn nodi 40 mlynedd ers cynnal y trawsblaniad bôn-gelloedd cyntaf yng Nghymru ar 1 Mawrth 1983. Roedd hyn mewn menyw ifanc a oedd yn dioddef o lewcemia myeloid cronig sef y rheswm mwyaf cyffredin, bryd hynny, dros gael trawsblaniad bôn-gelloedd (rhoddwr) alogenëig gan nad oedd y therapïau amgen iachaol posibl sydd ar gael heddiw ar gael bryd hynny. Cynhaliwyd y cyflawniad nodedig hwn gan ddefnyddio rhoddwr brawd neu chwaer, a llai na dwy flynedd yn ddiweddarach, cynhaliwyd y trawsblaniad cyntaf gan ddefnyddio rhoddwr nad oedd yn perthyn i’r claf ym mis Ionawr 1985, eto ar gyfer claf â lewcemia myeloid cronig. Dilynodd datblygiadau eraill yn fuan gyda’r trawsblaniad pediatrig cyntaf yn cael ei gynnal yn Ysbyty Llandochau ym 1986 a’r trawsblaniad cyntaf yn cael ei gynnal yn Abertawe yn Ysbyty Singleton ym 1997. Symudodd y rhaglen trawsblannu pediatrig i safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn 2005 ar ôl agor Ysbyty Plant Cymru.

Cefnogwyd yr holl unedau clinigol gan gyfleusterau casglu a phrosesu ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru, ac ar 31 Awst 2011, yn dilyn cyfnod o gysoni, gwnaeth yr unedau i gyd uno a mabwysiadu’r enw Rhaglen Trawsblannu Gwaed a Mêr Esgyrn De Cymru (SWBMT). Roedd yr enw’n adlewyrchu’r ffaith nad oedd bôn-gelloedd yn cael eu casglu’n uniongyrchol o’r mêr esgyrn mwyach ond, yn y mwyafrif o achosion, o’r gwaed ymylol, ar ôl ysgogi’r mêr gyda cytocin (cemegyn) o’r enw G-CSF neu ffactor ysgogi clwstwr o gronyngelloedd. Mae Rhaglen SWBMT yn gwasanaethu chwech o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru (pob un heblaw am BIP Betsi Cadwaladr) sy’n cyfateb i oddeutu 80% o boblogaeth Cymru.

Ymhlith y cerrig milltir arwyddocaol eraill dros y pedwar degawd diwethaf mae defnyddio cemotherapi cyflyru dwyster llai yn arwain at y trawsblaniad, a’i gwnaeth yn bosibl codi’r terfyn oedran uchaf o 45-50 oed i gleifion yng nghanol eu 70au; cynyddu’r defnydd o roddwyr nad ydynt yn perthyn i’r claf (sydd bellach yn cyfrif am oddeutu 75% o drawsblaniadau alogenëig) gan mai dim ond 20-30% o gleifion sydd angen rhoddwr fyddai’n dod o hyd i gyfatebiaeth o fewn eu teulu. Rydym yn ddyledus i Gofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru (WBMDR) sy’n dod o hyd i roddwyr ar gyfer cleifion o Gymru a Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru (WTAIL) sy’n cyflawni’r broses teipio meinwe (HLA) gymhleth i sicrhau bod cydweddiad cystal â phosibl yn cael ei ganfod. Mae WBMDR a WTAIL yn rhan o Wasanaeth Gwaed Cymru, partner pwysig ar gyfer Rhaglen SWBMT.

Ym mis Rhagfyr 2018 cymhwysodd Rhaglen SWBMT fel canolfan CAR-T i ddarparu therapi newydd cyffrous lle mae celloedd imiwnedd y claf ei hun yn cael eu haddasu’n enetig i adnabod a lladd celloedd canser. Dechreuwyd darparu triniaeth CAR-T yn 2019 ac mae’r dirwedd yn awgrymu y bydd y driniaeth hon yn cael ei darparu i nifer cynyddol o gleifion yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r Rhaglen wedi’i hachredu gan JACIE, sefydliad rhyngwladol annibynnol sy’n achredu rhaglenni trawsblannu yn Ewrop ynghyd â’i sefydliad partner FACT, sy’n achredu i’r un safonau yng Ngogledd America. Yn ogystal, mae’r Rhaglen wedi’i thrwyddedu gan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol i sicrhau bod safonau ansawdd a diogelwch sy’n rhwymol yn gyfreithiol yn cael eu bodloni.

Mae gan Raglen SWBMT bortffolio ymchwil a datblygu gweithgar iawn i gefnogi ei gweithgarwch clinigol ac mae cyflawniadau nodedig yn cynnwys aelodaeth a chyllid gan IMPACT, consortiwm o raglenni trawsblannu yn y DU sy’n ymroddedig i ddarparu treialon trawsblannu llwybr carlam; ac

aelodaeth a chyllid gan Ganolfan Meddygaeth Canser Arbrofol Caerdydd, a ariennir gan CRUK a chyrff cyllido ymchwil llywodraethol y DU i ddarparu treialon cyfnod cynnar ar gyfer cleifion canser. Chwaraeodd aelodau o Raglen SWBMT ran allweddol hefyd yn y cais llwyddiannus gan Ganolfan Triniaeth Therapïau Datblygedig Canolbarth Lloegr a Chymru (ATTC) wrth gael ei dewis fel un o ddim ond tair canolfan yn y DU i gael statws ATTC gan Lywodraeth y DU, a ffurfio Therapïau Datblygedig Cymru, un o bedair colofn Meddygaeth Fanwl Llywodraeth Cymru, sy’n ymroddedig i ddod â therapïau datblygedig newydd i boblogaeth Cymru. Yn 2020 sefydlwyd Consortiwm Therapïau Cellog Cymru i gydlynu gweithgareddau ymchwil Rhaglen SWBMT.

Bydd digwyddiad dathlu yn nodi’r garreg filltir bwysig hon o 40 mlynedd o wasanaeth yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Os hoffech gefnogi’r Uned Trawsblannu Mêr Esgyrn drwy gynnal digwyddiad codi arian, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Edrychwch ar ychydig o weithgareddau codi arian diweddar yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.