Rhoi

Mae ardal dawel braf bellach ar gael i staff gael ymlacio a chael eu nerth yn ôl yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Diolch i gyllid a ddaeth o rodd sylweddol gan Gareth ac Emma Bale yn ystod y pandemig, mae Gwasanaeth Iechyd a Lles y Gweithwyr, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Bwrdd Iechyd i ddarparu Hafan i Staff yn Adain Glan-y-llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Agorodd yr Hafan i Staff ar ddydd Llun 1 Chwefror 2021.

Mae cysyniad yr Hafan i Staff yn deillio o’r syniad y dylai fod gan staff y Bwrdd Iechyd rywle i fynd i gael amser iddynt eu hunain – rhywle iddynt orffwys a myfyrio er mwyn gwarchod eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl. Mae pobl yn dewis gwneud hyn mewn gwahanol ffyrdd, felly mae’r ardal wedi’i dylunio i fod yn amlswyddogaethol.

Mae cegin yn yr Hafan i Staff lle gall staff wneud diodydd poeth; byrddau a chadeiriau lle gallant eistedd a phwyso a mesur pethau; cyfleusterau iddynt gael cawod yn dilyn diwrnod caled o waith; ac mae’n ardal lle na cheir ffonau symudol er mwyn rhoi cyfle i feddyliau prysur ymlacio, hyd yn oed am gyfnod byr. Mae’r ardal dawel yn annog staff i eistedd ac ymlacio heb unrhyw beth i darfu arnynt.

Mae’r ardal yn hyblyg er mwyn bodloni anghenion staff – boed hynny’n rhywle i ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar neu ymlacio a darllen llyfr.

Ymgynghorwyd â staff ynghylch dyluniad, edrychiad a theimlad yr Hafan i Staff a’r ymateb cyffredinol oedd y dylai’r thema fod yn seiliedig ar natur.

Mae gwaith celf hardd yn addurno’r muriau, gan helpu i annog positifrwydd a daearu. Gobeithio y bydd defnyddio lliwiau naturiol a phlanhigion, ochr yn ochr â’r gwaith celf ysbrydoledig ac ysgogol, yn helpu i ddod â byd natur i mewn i’r lle ac yn helpu i greu ardal lle gall pawb ymlacio’n llwyr.

Bydd yr Hafan i Staff yn hybu lles a chadernid staff drwy roi gwybodaeth a chyngor ar ymyriaethau sy’n cyd-fynd â strategaeth y Bwrdd Iechyd ar gyfer lles staff, ac mae Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol a Gwasanaeth Lles y Gweithwyr wedi cael dylanwad hefyd.

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Roedd yr Elusen Iechyd yn falch iawn o gefnogi ein staff drwy ddarparu Hafan i Staff. Mae mor bwysig, yn enwedig nawr yn ystod y pandemig, bod staff yn gallu cael amser i ffwrdd o’u diwrnod gwaith prysur i feithrin cadernid a myfyrio ar eu diwrnod er mwyn eu helpu gyda’u hiechyd a lles emosiynol.

“Hoffwn ddiolch o galon i Gareth ac Emma Bale am eu rhodd hael, sydd wedi golygu ein bod wedi gallu bwrw ymlaen i ddatblygu’r cyfleuster hwn. Hoffwn ddiolch i’r artist Nathan Wyburn, Grosvenor Interiors, Amgueddfa Cymru a Poppi Contract Furniture am eu rhan yn y prosiect hefyd.

Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaeth Iechyd a Lles y Gweithwyr: “Mae gallu gorffwys ac ymlacio yn hanfodol os ydym ni am gynnal ein lles yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn.

“Nod yr Hafan yw rhoi cyfle i staff ymlacio i ffwrdd oddi wrth yr amgylchedd clinigol neu’r swyddfa a chael lle i ofalu amdanynt eu hunain.

“Hoffwn ddiolch i Dîm Profiad y Cleifion, cydweithwyr o’r Tîm Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau a’m cydweithwyr yn y Gwasanaeth Lles i Weithwyr am eu cefnogaeth.”

Dywedodd Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn falch o gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gyda’u hafan newydd i staff. Gobeithio y bydd casgliad celf Amgueddfa Cymru yn cael dylanwad cadarnhaol ar iechyd a lles staff yr ysbyty ac y bydd yn helpu i wella eu hwyliau a hynny yn ystod amser anodd iawn.”

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.