Rhoi

Enillydd y £20k yw……..Anna Jones, Bydwraig Gymunedol.

Cafodd Loteri Raffl Fawr Staff ei thynnu ddydd Gwener 27th Tachwedd yn Swyddfa’r Elusen Iechyd yn Woodland House.

Scott Quinnell, cyn chwaraewr undeb rygbi Cymru a rygbi’r gynghrair dynnodd y raffl y mis hwn, a greodd bedwar enillydd £1,000 a’n henillydd £20,000 lwcus cyntaf!

Enillydd lwcus Raffl Fawr £20,000 mis Tachwedd 2020 oedd Anna Jones, bydwraig sy’n gweithio yn y gymuned. Roedd Anna yn ei seithfed nef pan glywodd y newyddion gwych. Dywedodd “Doeddwn i wir yn methu â chredu’r peth pan gefais i alwad gan Scott Quinnell, a dydw i dal yn methu â chredu’r peth yn iawn, diolch yn fawr iawn!” Mae fy ngŵr a minnau’n mynd i ffwrdd i Ddinbych-y-pysgod heddiw am y penwythnos a byddwn yn siŵr o ddathlu!”

DYMA EICH ENILLWYR LOTERI RAFFL FAWR £1,000 MIS TACHWEDD STAFF:

  • Hannah Tinnuche, Nyrs Ysgol, y Barri
  • Laura Morgan, Endosgopi, Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL)
  • Stacey Durham, Nyrs Ysgol, Ysgol Y Deri
  • Julie Whitfield, Dwyrain 4, Ysbyty Athrofaol Llandochau (UHL)

Mae’r arian ar gyfer cael mynediad i’r Loteri Staff yn cael ei dynnu’n awtomatig o’ch cyflog a’r pris yw £1 bob wythnos. Pan fyddwch yn rhan o’r Loteri Staff bydd rhif unigryw yn cael ei roi i chi, a’r rhif sy’n ennill yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ar hap.

Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff ar draws Caerdydd a’r Fro gan greu enillwyr newydd bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am gyllid gan y Panel Cynigion Loteri Staff. Yn ddiweddar maen nhw wedi rhoi grantiau gwerth dros £1.5 miliwn i gefnogi prosiectau amrywiol ar draws y BIP ac mae cleifion, staff ac ymwelwyr yn cael budd ohonynt.

Gellir llenwi ffurflen Gais y Loteri yn electronig yma a’i dychwelyd i fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.