Rhoi

Shane Schembri, Gwasanaethau Gweithredol, UHL

Emma Jones, Tîm Nyrsys Ardal, Canolfan Iechyd y Bont-faen

Mark Borgia, Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol, Canolfan Hamadryad

Rebecca Palmer, Ward Dwyrain 2, UHL

Ym mis Chwefror 2021, enillodd pedwar alod o staff £1,000 yr un yn y Loteri, ac roedd pob un yn hapus iawn o glywed y newyddion gwych!   

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n rhedeg Loteri’r Staff, lle mae gan staff GIG Caerdydd a’r Fro gyfle i ennill £1,000 bob wythnos, a chael eu cynnwys AM DDIM yn y ddwy raffl fawr rydym yn eu cynnal bob blwyddyn.

BYDD CYFLE I UN ENILLYDD LWCUS ENNILL £5,000 YN Y RAFFL FAWR A FYDD YN CAEL EI THYNNU AR 25 MEHEFIN 2021, FELLY EWCH ATI I GOFRESTRU!

Mae Loteri’r Staff yn cefnogi staff ledled Caerdydd a’r Fro wrth i aelodau staff ennill gwobrau bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am arian gan Banel Ceisiadau Loteri’r Staff, sydd wedi dyrannu grantiau gwerth dros £1.5 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau ledled Bwrdd Iechyd y Brifysgol, sydd o fudd i gleifion, staff ac ymwelwyr.

Mae modd llenwi ffurflenni cais y Loteri yn electronig yma a’u hanfon at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.