Rhoi

Trefnwyd Gweithdy Creu Torch Nadolig gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro i godi arian ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ddydd Mercher 23 Tachwedd 2022.

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Nhŷ Coetir a chroesawyd bron i 50 o gyfranogwyr yn ystod dwy sesiwn, a gwnaethant fwynhau diodydd poeth a chacennau a roddwyd yn garedig gan Memory Lane Cakes.

Cynhaliwyd y gweithdy gan Natalie ac Amanda o Hearts and Flowers / About Flowers a wnaeth roi arweiniad i’r cyfranogwyr ar sut i greu eu Torch Nadolig eu hunain. Roedd y torchau i gyd yn edrych yn anhygoel ac rydym yn edrych ymlaen at eu gweld yn cael eu harddangos ar gyfer y Nadolig!

Tynnwyd Raffl Nadolig yn y digwyddiad hefyd a chafodd yr enillwyr wobrau a roddwyd yn hael gan Theatr y Sherman, Neuadd Dewi Sant, Mack Events, a Kate Broadhurst. Enillodd un aelod o staff lwcus hefyd aelodaeth am ddim am flwyddyn i un person yng Nghampfeydd Everlasta roddwyd yn garedig gan http://www.StaffBenefits.co.uk

Cododd y digwyddiad dros £1000 ar gyfer Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles a bydd yn cyfrannu’n sylweddol at barhau i gynnal a datblygu’r rhaglen er mwyn cynnig amgylcheddau creadigol, gweithdai a chyfleoedd i gleifion, staff ac ymwelwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i Hearts and Flowers / About Flowers, y busnesau lleol a gyfrannodd i’r digwyddiad a phawb a fynychodd y gweithdy, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr.

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu digwyddiad a gynhelir gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn y dyfodol, cadwch lygad ar dudalen digwyddiadau Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: https://healthcharity.wales/events/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.