Rhoi

Yn ddiweddar cynhaliodd Lottie Stokes, sydd wedi bod yn codi arian ers tro, ddawns elusennol i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon a Chronfa Louie Stokes yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dechreuodd Lottie godi arian ar gyfer Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru ar ôl i’w hail fab, Louie, gael diagnosis o gyflwr difrifol iawn ar y galon gan arwain at nifer o lawdriniaethau.

Mae’r teulu Stokes wedi chwarae rhan fawr yn yr ymdrechion i godi proffil Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a chasglu arian ar gyfer achosion da er budd plant sydd â chyflyrau ar y galon o’u geni ledled Cymru. Defnyddiwyd yr arian a godwyd gan Lottie, ei gŵr Karl a Louie ei hun, i brynu offer newydd, gwella safonau’r cyfleusterau diagnostig a oedd yn bodoli eisoes a hyrwyddo ymchwil ac addysg.

Ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2024, cynhaliodd y teulu ddawns fawr elusennol i gefnogi Cronfa Louie Stokes, gan godi swm anhygoel o £2,000 i gefnogi Gwasanaeth y Galon i Blant Cymru. Codwyd £4,000 arall i gefnogi Sefydliad Prydeinig y Galon.

Dywedodd Lottie: “Cawsom amser gwych yn y Park Plaza nos Sadwrn a chodwyd llawer mwy o arian nag yr oeddwn yn disgwyl; rwy’n dal i ryfeddu at y cariad a’r gefnogaeth yn yr ystafell!”

“Mae eich cefnogaeth yn golygu’r byd i ni ac yn ein helpu i droi’r sefyllfa gyda Louie, ein mab canol, sy’n sefyllfa ofnadwy ar brydiau, yn un fwy cadarnhaol. Fe wnaethon ni ddawnsio drwy’r nos gyda chalonnau llawn a hapus.”

Mae’r teulu Stokes wedi ymrwymo i godi arian, a her nesaf Karl fydd cymryd rhan yn Marathon Llundain eleni! I’w gefnogi gyda’r her, cyfrannwch i’w dudalen JustGiving.

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch yn fawr i’r teulu Stokes am eu hymroddiad a’u cefnogaeth barhaus. Mae’r arian a godir yn cyfrannu’n uniongyrchol at fywydau plant â chyflyrau’r galon, gan eu helpu i fyw bywydau hir a hapus.

I ddangos eich cefnogaeth drwy gyfrannu, tecstiwch LOUIE wedi’i ddilyn gan swm eich rhodd at 70085 i roi’r swm hwnnw. Bydd negeseuon testun yn costio swm y rhodd ynghyd ag un neges cyfradd rhwydwaith safonol.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.