Rhoi

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi Carly Shier yn Arwr Iechyd mis Tachwedd.

Cafodd Carly, a ddechreuodd ei gyrfa yn y maes Caffael fel prynwr cyn ymuno â Thîm Storfeydd Theatr YALl, ei henwebu gan ei chydweithiwr, Victoria Wilson, Rheolwr Gwasanaeth Cynorthwyol.  Caiff Carly ei hystyried yn ased enfawr gydag ymagwedd ‘gallu gwneud’ ac mae’n enghraifft safon aur o ‘wneud y peth iawn’.

Dywed Victoria. “Drwy gydol y pandemig (er bod hawl ganddi i warchod) gwnaeth Carly fynychu’r gwaith i helpu i gynnal ein theatrau.  Hefyd, mae’n treulio oriau yn casglu tystiolaeth i reoli gwariant a chyfiawnhau arian trethdalwyr o fewn ein Cyfarwyddiaeth, ac mae’n treulio gweddill ei hamser yn cefnogi’r Tîm Storfeydd a thimau ehangach y Theatrau. Rwy’n canmol Carly yn aml am ei hymrwymiad i’r gwasanaeth, y tîm ac i’r cleifion sy’n cael llawdriniaeth, ond teimlaf y byddai’n anhygoel pe bai’n derbyn rhodd arbennig wrthym ni i ddiolch iddi am ei holl waith caled ac am gefnogi cymaint o bobl yn bersonol ac yn broffesiynol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Dylai ei theulu fod yn falch iawn ohoni a dylai’r BIP fod hefyd. Mae’n ased enfawr”.

Mae Jon Barada – Nyrs Arwain Dros Dro, Gofal Amdriniaethol, yn mynd ymlaen i ddweud, “Yn ystod uchafbwynt y pandemig COVID, gwnaeth Carly ddod i’r gwaith am ei bod yn benderfynol o gefnogi ei thîm a’r gwasanaeth yn ystod cyfnod hynod heriol. Rhoddodd Carly gysur yr oedd gwir ei angen i’w thîm gan lwyddo i godi eu calonnau hefyd yn ystod y misoedd anodd iawn hyn, a dangosodd sut y mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth greu gwasanaeth gwydn sy’n gallu addasu. Gweithiodd Carly yn ddiflino i sicrhau bod ei thîm yn gweithio’n unol â chanllawiau IPC a gweithiodd yn galed i ddiogelu a sicrhau ei thîm.

Mae Carly yn goruchwylio ardal enfawr ac yn ymfalchïo mewn deall y gwasanaeth yn fanwl, yn enwedig mewn perthynas â sicrhau y caiff yr holl gyllid a ddyrennir i stociau, mewnblaniadau a hurio offer ei gyfiawnhau ac y rhoddir cyfrif amdano. Mae Carly wedi datblygu diwylliant o gydweithredu â thimau clinigol y theatrau i’w cefnogi i ddarparu gwasanaeth diogel ac effeithlon i gleifion Caerdydd a’r Fro, ac mae bob amser yn barod i gynnig help mewn unrhyw sefyllfa, gan weithio gyda’r timau i sicrhau bod cynllun ar waith ble bynnag y ceir bygythiad i barhad y gwasanaeth sy’n ymwneud â stoc neu fewnblaniadau.

Mae Carly yn monitro ac yn adrodd cymaint o fanylion â phosibl i alluogi uwch-reolwyr i wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ei data a’i hadroddiadau. Mae’n bleser gweithio gyda Carly, sy’n llwyddo i gydbwyso bywyd gartref gyda gŵr a dau o blant bach. Mae Carly bob amser yn mynd i’r gwaith gydag ymagwedd ‘gallu gwneud’ ac mae’n dosturiol ac yn ofalgar tuag at bawb, hyd yn oed pan fydd yn wynebu gwrthdaro ac yn cael sgyrsiau anodd. Mae ganddi enw da credadwy am fod yn ffynhonnell wybodaeth ond yn fwy na hynny am fod yn rhywun a fydd yn gwrando heb farnu a bob amser yn gwneud ei gorau i helpu fel unigolyn proffesiynol, fel goruchwyliwr ac fel ffrind i gymaint o bobl. Rydym yn ffodus tu hwnt i’w chael ac yn falch iawn o’i chyflawniadau.

Bydd Carly yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.

Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk

Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.