Cofrestrwch ar gyfer 10k Bae Caerdydd
Hoffech chi herio eich hun yn 2020? Beth am redeg ras 10k Bae Caerdydd er budd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro?
Mae gennym nifer o leoedd codi arian AM DDIM ar gael i redwyr sy’n cytuno i godi o leiaf £100 ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Bydd aelodau’r Elusen #TîmIechyd yn cael crys-t AM DDIM a byddant yn gallu ymuno yn ein sesiynau hyfforddi agored cyn y diwrnod mawr.
Os hoffech gymryd rhan, llenwch ein ffurflen gofrestru ar-lein, neu llwythwch ffurflen i lawr a’i hanfon wedi’i llenwi at Daniel Howorth yn fundraising.cav@wales.nhs.uk, neu drwy’r post i: Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, Woodland House, Maes-y-coed Road, Y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4HH.
Y dyddiad cau i gofrestru yw dydd Llun, 9 Mawrth 2020, felly ewch ati i lenwi eich ffurflen heddiw er mwyn sicrhau eich lle.