Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles rannu mwy o newyddion am ein Prosiect Celfyddydau’r Ifanc dros Newid.
Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring fel rhan o Fenter Celfyddyd a Chrebwyll, mae ein prosiect Blwyddyn 2 ym Mhafiliwn Bowlio y Grange wedi cael dechrau gwych gyda’r artist, Louise Jensen.
“Yn Grangetown, daeth llawer iawn o bobl i’n gweithdy lansio gyda’r Fforwm Ieuenctid ym Mhafiliwn Grange; roedd rhai mygydau anhygoel, cafwyd egni gwych gan y grŵp, a gan y bydd sesiwn galw heibio bob wythnos rydym yn edrych ymlaen at fwy o archwiliadau creadigol dros y misoedd nesaf.”
– Louise Jensen, Artist
Mae’r sesiynau wythnosol ym Mhafiliwn Bowlio y Grange yn cael eu cefnogi gan y Fforwm Ieuenctid a’u gwirfoddolwyr ar y prosiect, ynghyd â’n hartistiaid Louise Jensen, Sian Burns a’r gwneuthurwr ffilmiau Joe Kelly.