Rhoi

Mae Adroddiad Gwariant COVID-19 2020 sydd hefyd ar gael yn Saesneg yn cynnwys rhai enghreifftiau o sut mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi gwario arian yn dilyn y gefnogaeth rydym wedi’i chael rhwng Ebrill 2020 ac Ionawr 2021, i gefnogi staff, cleifion a gwirfoddolwyr y GIG y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt. Os hoffech ddarllen am rai o’r gweithgareddau codi arian a’r gefnogaeth y mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi’i chael yn ystod y pandemig, darllenwch ein COVID-19 Hadroddiad Codi Arian COVID-19 2020 sydd hefyd ar gael yn Saesneg.

Oherwydd swmp y ceisiadau am gyllid gan aelodau staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, dim ond cipolwg cryno sydd yn yr adroddiad hwn o’r nifer o ffyrdd amrywiol rydym wedi gwario’r arian sydd wedi dod i law diolch i haelioni busnesau, sefydliadau ac aelodau’r cyhoedd. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi cyfle arall i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ddweud diolch o galon i’r bobl hael sydd wedi rhoi ac sydd wedi codi arian, sydd wir wedi gwneud cymaint i gefnogi cleifion a staff yn y cyfnod eithriadol hwn. Gyda’r gefnogaeth hon, llwyddwyd i godi £750,470 i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Hefyd, roeddem wedi derbyn rhoddion caredig gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd, sef yr elusen gyffredinol sy’n cynrychioli, yn cefnogi ac yn hyrwyddo pob Elusen GIG unigol yn y DU. Casglwyd y swm anhygoel o £150 miliwn i Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd yn 2020, ac mae’r arian yn cael ei ddosbarthu i’r 220 o elusennau unigol y GIG mewn gwahanol ffyrdd.

Hyd yma, mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi derbyn £299,737 gan Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd i gefnogi staff, cleifion a gwirfoddolwyr.

Mae cyfran o’r arian wedi cael ei roi’n benodol i helpu’r rheini y mae COVID-19 wedi cael effaith anghymesur arnynt. Rydym yn gwneud cais am ragor o arian gan Elusennau’r GIG Gyda’i GIlydd i gefnogi nifer o brosiectau ledled y Bwrdd Iechyd, er mwyn lleihau’r pwysau ar y GIG ac yn y tymor hir. Unwaith eto, rydym yn ddiolchgar dros ben am y gefnogaeth mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi’i chael a byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i godi mwy o arian er budd pawb ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Diolch yn fawr.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.