Rhoi
Jo Gill, Nyrs Glinigol Arbenigol Gofal Lliniarol, yn y Ffair Nadolig (a gafodd y syniad gwreiddiol o gynnal stondin grefftau).

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddweud diolch yn fawr iawn i’r tîm Gofal Lliniarol. Casglwyd dros £500 yn Ffair Nadolig Ffynnon Taf i brynu anrhegion i gleifion oedrannus a oedd yn ynysu yn yr ysbyty y Nadolig hwn.

Oherwydd y cynnydd diweddar yn nifer yr achosion o’r amrywiolyn Omicron, cyfyngwyd ar fynediad i ymwelwyr yn safleoedd ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Er mwyn gwneud i’w cleifion deimlo eu bod yn cael eu cofio a’u bod yn derbyn gofal yn ystod cyfnod yr ŵyl, gwerthodd y nyrsys Gofal Lliniarol addurniadau Nadolig wedi’u gwneud â llaw yn Ffair Nadolig Ffynnon Taf, a defnyddiwyd yr elw i brynu anrhegion bach i’w cleifion.

Dywedodd Jo Gill, yr Ysgrifennydd Meddygol Gofal Lliniarol: “Yn ein rôl fel nyrsys Gofal Lliniarol rydym yn rhy aml yn dod ar draws cleifion sy’n unig ac wedi’u hynysu’n gymdeithasol. Amlygwyd y broblem hon yn ystod y pandemig.

“Tra byddant yn yr ysbyty, nid oes gan lawer o gleifion oedrannus deulu na ffrindiau a all ddod â danteithion bach i mewn a allai godi eu calon. Gall eitemau fel cylchgrawn neu bapur newydd lenwi ychydig o oriau unig a chadw cleifion yn gysylltiedig â’r byd y tu allan. Gall pâr o sanau gwlanog ddod â chysur. Gall eu hoff losin o’r siop neu goffi braf o Aroma ddod â gwên. Gall eitemau fel pâr o sliperi helpu claf i ymwneud â ffisiotherapi neu gall ffan llaw ddod â rhyddhad i glaf sy’n fyr ei wynt.

“Fel tîm fe benderfynon ni geisio codi rhywfaint o arian i sefydlu cronfa a fyddai’n caniatáu i ni brynu eitemau bach fel y rhain pan nad oes unrhyw un arall sy’n gallu gwneud. Wrth i’r Nadolig agosáu fe benderfynon ni wneud a gwerthu addurniadau Nadolig gan gynnwys baneri, addurniadau i’r goeden, cerrig mân wedi’u paentio, lampau poteli, cardiau Nadolig a gorchuddion wedi’u gwau ar gyfer siocled oren. Gyda stondin yn Ffair Nadolig Ffynnon Taf roeddem yn ddigon ffodus i wneud dros £500 sy’n ddechrau da i’n cronfa. 

“Rydym yn gobeithio parhau â’n gweithgareddau codi arian gyda rhagor o stondinau crefft ac rydym hyd yn oed yn ystyried rhedeg ras elusennol 5km!”

Llongyfarchiadau mawr i’r tîm gwych am godi swm arbennig o arian! Mae’n gyfraniad anhygoel a werthfawrogwyd yn fawr gan gleifion yn ystod cyfnod y Nadolig.

Os oes gennych ddiddordeb mewn codi arian ar ein cyfer, anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.