Rhoi

Pob lwc i’r tîm o Headroom sy’n codi arian i gefnogi Voyage to Recovery Headroom 2023.

Mae Headroom yn wasanaeth Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n cefnogi unigolion sy’n profi pwl cyntaf o seicosis rhwng 14 a 25 oed.

Mae’r prosiect Voyage to Recovery yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o’r anawsterau a wynebir gan bobl ifanc â seicosis cynnar, eu potensial i gyflawni, ac mae’n dangos pwysigrwydd cael gwasanaethau EIP effeithiol, gan ddefnyddio dull arloesol a’r dyhead i fanteisio ar botensial tirwedd ac arfordir unigryw y wlad er budd iechyd.

Bydd y bobl ifanc yn hwylio Faramir, cwch hwylio cyflym 22m, a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer hyfforddiant hwylio. Mae hwylio pellteroedd hir ynddi yn gofyn am lawer o ymdrech gorfforol a gwaith tîm: codi, gostwng, a thrin yr hwyliau; tynnu rhaffau; llywio, cadw gwyliadwriaeth gyson a dysgu sut i fordwyo; coginio, glanhau a chynnal a gwaith cynnal a chadw bob dydd ar y cwch, a dysgu sgiliau allweddol bywyd ar yr un pryd.

Mae gan lawer o’r bobl ifanc ar y fordaith hon fywydau bob dydd sy’n cael eu cyfyngu gan eu sefyllfa a’u hamgylchiadau cymdeithasol, heb lawer o gyfleoedd ar gyfer profiadau newydd sy’n caniatáu twf a hunanddatblygiad. Mae’r rhan fwyaf o ofal iechyd meddwl yn canolbwyntio ar geisio newid problemau’r unigolyn – i leihau symptomau gyda meddyginiaeth, neu i wella addasiad seicolegol gyda therapi. Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r ffactorau sefyllfaol sy’n gwneud pobl yn gaeth i’w sefyllfa mewn bywyd ac i wasanaethau, trwy ddarparu amgylchedd hollol wahanol lle mae’n bosibl datblygu hyder, sgiliau newydd, ymwneud â hybu iechyd corfforol a rhoi persbectif newydd ar fywyd ar y lan.

Digwyddiad cyntaf y tîm fydd y Santa Dash ddydd Sul, 3 Rhagfyr. Os hoffech gefnogi’r prosiect a rhoi cyfraniad, ewch i https://www.justgiving.com/fundraising/headroomvoyagetorecovery2023

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.