Rhoi

Wedi’i wneud yn bosibl gydag arian Loteri’r Staff, ac fel rhan o’r prosiect Ysbyty Brenhinol Caerdydd: Pobl, Lle, Dyfodol, cafodd disgyblion blwyddyn 5 Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville gyfle i gynhyrchu eu llyfr straeon eu hunain am Ysbyty Brenhinol Caerdydd yn dilyn gweithdai gyda’r actor Daniel Buck.

Cyflwynodd Daniel weithdai ysgrifennu creadigol, byrfyfyr a chwarae rôl arloesol sydd wedi’u cynllunio i wella sgiliau llafaredd ac ysgrifennu trwy actio ac adrodd straeon. Cafodd Daniel gwmni’r darlunydd Holly Raddy, sy’n cyflwyno sesiynau lluniadu a darlunio, a’r ffotograffydd Lisa-Marie Mansfield sy’n tynnu lluniau ar gyfer yr ysgol.

Gwnaeth y disgyblion fwynhau’r prosiect yn fawr, a gwnaethant ddatblygu sgiliau adrodd straeon ymarferol ac arferion ysgrifennu creadigol, gan dynnu ar ysbrydoliaeth leol i ysgogi syniadau a chymeriadau dychmygus, a dangos cefnogaeth i’r gymuned leol. Dangosodd aelodau staff yr ysgol gefnogaeth a brwdfrydedd yn ystod y sesiynau hefyd.

Disgrifir y casgliad o straeon fel un “rhyfedd, doniol a chraff” gan Daniel, ac mae’n rhoi cipolwg i’r darllenydd ar ddychymyg person 9-10 oed. Mae’r llyfr wedi creu gwaddol parhaol sy’n dathlu’r adeilad eiconig o safbwynt person ifanc, ac yn cyfleu gwerthoedd craidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ar gyfer gwasanaeth iechyd yn y dyfodol i’r gymuned.

Dywedodd V Constantinou, Pennaeth Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tredegarville: ‘Roeddwn i eisiau ysgrifennu i ddweud diolch enfawr i chi, Daniel a Holly. ‘Mae’r plant wedi derbyn copi eu hunain o’r llyfr gorffenedig heddiw (fel ydw i!) ac maent wrth eu bodd. Gofynnais iddyn nhw beth oedden nhw’n ei feddwl pan welson nhw’r llyfr gorffenedig a dywedon nhw “wedi syfrdanu”, “balch” a “llawn cyffro”.

Mae’r prosiect hwn wedi galluogi’r plant i weld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi: bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar eu hunan-barch a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl ond mae’r canlyniad wedi rhagori ar fy nisgwyliadau.

Cydweithrediad gwych iawn — edrychwn ymlaen at weithio gyda chi eto.’

Roedd y prosiect yn llwyddiant ac roedd o fudd i bawb a gymerodd ran. Gallwch lawrlwytho fersiwn digidol o’r llyfr gyda rhodd a awgrymir o £3 i Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, trwy dudalen yr Elusen Iechyd. Mae copïau caled hefyd ar gael i’w darllen yn Llyfrgell y Capel yng Nghaffi Aroma CRI.

Os ydych chi’n gyflogai gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn awyddus i helpu i ariannu prosiectau fel hwn, ac am gyfle i ennill £1,000 yr wythnos, gallwch lenwi ffurflenni cais yma.

Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.