Yn ddiweddar mae’r tîm o therapyddion, nyrsys a meddygon amlddisgyblaethol yn Ysbyty Rookwood, cefnogwyr yr apêl, yn ogystal â gwirfoddolwyr codi arian arbennig wedi codi swm anhygoel o £1,276 ar ôl penderfynu y bydden nhw’n hoffi codi arian ar gyfer yr apêl Prop, drwy fynd ati i gwblhau her.
Roedden nhw am gwblhau’r pellter mewn milltiroedd o Ysbyty Rookwood i Begwn y Gogledd, sydd yn 2669 milltir, wrth feicio, rhedeg, nofio a cherdded (i enwi dim ond rhai). Er mwyn eu helpu i gadw cymhelliant, sefydlodd y tîm grŵp rhedeg bob wythnos.
Gan mai hwn fydd eu Nadolig olaf yn Ysbyty Rookwood, cyn i’r gwasanaethau gael eu symud i Ysbyty Llandochau, cytunodd pawb y byddai’n braf gweld y flwyddyn yn tynnu at ei therfyn gyda rhywbeth cadarnhaol gan rhoi hwb i les pawb drwy fod yn fwy heini ar gyfer y Nadolig.
Dechreuodd yr her ddydd Gwener 20 Tachwedd ac fe ddaeth i ben ar 20 Rhagfyr.
Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran ac i bawb wnaeth gyfrannu. Dymunwn Nadolig diogel, heddychol a hapus i bawb.
Gallwch gefnogi’r tîm o hyd drwy fynd i https://www.justgiving.com/campaign/Rookwood-NorthPole20
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am yr Apêl Prop a sut gallwch helpu i gefnogi’r Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau yn Ysbyty Rookwood ewch i wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ; https://healthcharity.wales/appeal/prop-appeal/ neu cysylltwch â ni drwy neges e-bost; Fundraising.cav@wales.nhs.uk