Rhoi

Gyda chymaint o newidiadau wedi bod eleni, roedd y Tîm Anafiadau i’r Ymennydd Cymunedol, (CBIT) eisiau rhannu ychydig o hwyl yr ŵyl i’r bobl rydyn ni’n eu cefnogi. Tîm Niwroadsefydlu arbenigol sy’n cefnogi unigolion a’u teuluoedd, sydd wedi profi trawma neu wedi cael anafiadau i’r ymennydd.

Mae cysylltiad a chynwysiad cymdeithasol yn chwarae rhan mor bwysig yn y broses o ailsefydlu ar ôl cael anaf i’r ymennydd, ac mae’n rhywbeth y mae cymaint o bobl yn ei weld yn ddefnyddiol a gwerthfawr.

Fe gynhaliodd y tîm eu digwyddiad cyntaf yn Ysbyty Rookwood lle cadwyd pellter cymdeithasol, sef “Cyfarfod celf a chrefft y Nadolig”. Fe gynhalion nhw sesiynau Zoom ar-lein hefyd. Dywedodd pawb wnaeth ymuno pa mor falch oedden nhw o gael cyfarfod pobl eraill a oedd hefyd yn ceisio addasu i anafiadau sy’n newid bywyd. I rai unigolion, roedd yn gyfle i siarad am ba effaith mae’r coronafeirws wedi’i gael ar eu trefn o ddydd i ddydd, eu hadferiad a’u rhwydweithiau cefnogi.

Gall unigrwydd a theimlo’n ynysig fod yn deimladau cyffredin yn dilyn anaf i’r ymennydd,, ac i’r rhan fwyaf o gleifion yn y grŵp, mae’r teimladau hyn wedi bod yn waeth yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws. Roedd cael dewis rhwng grwpiau ar-lein neu rhai wyneb yn wyneb yn golygu y gallen nhw fod mor gynhwysol â phosibl, ac er mwyn caniatáu i unrhyw un gael mynediad i’r grwpiau – boed hynny’n unigolion sy’n hunanynysu neu’n ceisio lleihau cyswllt cymdeithasol yn ogystal â’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd gyrru car neu’n dioddef effaith blinder. Roedd pob sesiwn yn cynnwys creu cardiau Nadolig, torchau macramé, ceirw a phlu eira wedi’u gwneud o gyrc potel; gyda staff CBIT yn eu cefnogi. Anfonwyd bocsys crefftau o flaen llaw i’r rhai a oedd yn cymryd rhan drwy Zoom er mwyn i bawb gael ymuno. Roedd sgiliau creadigol a Thechnoleg Gwybodaeth y defnyddwyr wedi creu argraff ar y Tîm CBIT!

Dywedodd Dr Siobhan Moore “Hoffem ddiolch i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sydd wedi bod yn hael wrth ariannu’r deunyddiau crefftau ac wedi caniatáu i ni gynnal y digywddiadau hyn, a hynny trwy’r gronfa loteri staff.

Os hoffech chi ymuno â’r Loteri Staff, gellir cwbhlau ffurflenni caisyn electronig neu ar ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Anfonwch ffurflenni Loteri Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech chi wneud cais am gyllid gan y Panel Cynigion Loteri Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.