Rhoi

Mae staff o’r siop Starbucks leol wedi rhoi eitemau yn ddiweddar i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Bydd detholiad o gwpanau y gellir eu hailddefnyddio, bagiau tote a setiau bambŵ yn cael eu dosbarthu i gefnogi mentrau lles.

Mae Starbucks yn credu mewn gwneud gwahaniaeth trwy gefnogi cymunedau lleol, ac ers dechrau’r pandemig Covid-19, maent wedi gweithio mewn partneriaeth â NHS Charities Together i gefnogi 239 o elusennau GIG lleol ledled y DU. Hyd yn hyn, maent wedi codi £100,000 o werthiant eu cwpanau newid lliw, ac wedi rhoi dros 500,000 o eitemau o fwyd a diod i staff y GIG sy’n gweithio ar y rheng flaen pan oedd y pandemig ar ei anterth.

Hoffem ddweud diolch enfawr i Starbucks ac NHS Charities Together am eu haelioni.

Wrth ddefnyddio cwpan y gellir ei ailddefnyddio yn unrhyw un o siopau Starbucks ledled y wlad, mae cwsmeriaid yn derbyn gostyngiad o 25c oddi ar unrhyw ddiod Starbucks. Mae deiliaid Cerdyn Blue Light hefyd yn cael 10% arall oddi ar ddiodydd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.