Rhoi

Roedd y tywydd o’r diwedd yn addawol i Sam Cartwright allu ymgymryd â’i her plymio o’r awyr. Fe wnaeth blymio o’r awyr ym Maes Awyr Abertawe i gefnogi Ein Dôl Iechyd, gan godi swm gwych o £591.25.

Roedd Sam wrth ei fodd gyda’i gamp anhygoel, a dywedodd y byddai’n ei wneud eto heb amheuaeth. Mae pawb yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn hynod ddiolchgar am ei ymroddiad a’i gefnogaeth.

Drwy godi arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd, bydd Sam yn cefnogi’r man gwyrdd arloesol sydd wedi’i leoli yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae’r ddôl yn cefnogi cleifion, staff ac aelodau o gymuned yr ysbyty i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored cynaliadwy i wella eu lles a dysgu sgiliau newydd.

Gallwch gefnogi Sam trwy gyfrannu at ei Dudalen JustGiving.

Os hoffech chi herio’ch hun i’r eithaf er mwyn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.