Rhoi

Bob blwyddyn, mae’r bobl anhygoel sy’n gadael Rhodd mewn Ewyllys yn ein helpu i ariannu cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cefnogi lles cleifion a staff, ac yn darparu cyfleoedd gwirfoddoli. Gwnaeth Rhodd mewn Ewyllys flaenorol helpu i gychwyn Ein Dôl Iechyd sy’n brosiect cymunedol parhaus sydd wedi’i leoli yn y caeau o amgylch safle Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gweithio gyda phartneriaid fel Down to Earth i ddatblygu Ein Dôl Iechyd ymhellach. Credir mai dyma’r prosiect cyntaf o’i fath ar unrhyw safle ysbyty yn y DU.

Dywedodd Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Os yw Covid-19 wedi dysgu unrhyw beth i ni, pwysigrwydd bod yn yr awyr agored, mewn mannau gwyrdd yw hynny.  Bydd ein prosiect Ein Dôl Iechyd yn gwella manteision iechyd a lles tra’n cefnogi ein cleifion ar eu taith adfer ac adsefydlu, yn ogystal â darparu lle hanfodol i orffwys, ar gyfer lles staff y GIG.”

“Mae manteision iechyd ffactorau amgylcheddol ac effaith natur a bywyd gwyllt ar les corfforol a meddyliol wedi cael eu cydnabod ers tro byd ac mae Ein Dôl Iechyd yn helpu i wella’r weledigaeth hon.”

Mae Geoff Bodman, claf blaenorol a chefnogwr hirdymor Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi bod yn gwirfoddoli gyda Down to Earth. Mae Geoff yn codi arian yn rheolaidd ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth a chymryd rhan i helpu staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn y fideo mae’n rhannu ei stori ysbrydoledig ac yn sôn am y sgiliau y mae wedi’u hennill, a faint y mae wedi elwa ar wirfoddoli yn yr awyr agored.

Ni fyddai prosiect fel Ein Dôl Iechyd yn bosibl heb y cyfraniadau Rhodd mewn Ewyllys cychwynnol. Gan fod mis Mawrth yn Fis Ewyllysiau Am Ddim, rydym yn cofio’r rhoddion hael a ariannodd brosiectau gwych fel Ein Dôl Iechyd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i adael Rhodd yn eich Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i https://healthcharity.wales/how-you-can-help/gift-in-wills/. Os hoffech ddarllen mwy am Fis Ewyllysiau Am Ddim, ewch i https://healthcharity.wales/cy/mis-ewyllysiau-am-ddim/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.