Rhoi

Y llynedd cawsom y pleser o ddarparu cymorth codi arian i grŵp o bobl o Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Roeddent wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau codi arian i gefnogi ein Hapêl Canolfan y Fron er budd eu cydweithiwr Rhian Griffiths a oedd yn cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron, Ysbyty Athrofaol Llandochau. https://healthcharity.wales/dro-da-dros-rhian-rhians-ramble/

Yna cawsom y pleser o gwrdd â Rhian ac un o’i chydweithwyr i dderbyn y rhodd anhygoel o ychydig dros £5000, ond dim ond y cam cyntaf oedd hyn.

Pan wnaethom gyfarfod â Rhian y llynedd, dywedodd, “Mae wedi bod yn gymysgedd gyson o adegau da ac adegau gwael, ond mae’r tosturi a’r gofal wedi bod yn anghredadwy. Rwy’n teimlo’n freintiedig iawn o fod wedi cael llawfeddyg mor wych â Lucy Satherley sydd mor angerddol am ei gwaith. Nid yw rhannu newyddion anodd byth yn hawdd ond mae gan y staff natur mor dawel, caredig a phendant, rydych chi’n teimlo’n ddiogel. Mae derbyn y newyddion bod gennych ganser yn ddinistriol ac yn achosi llawer o ofid. Fodd bynnag, ar ôl y sioc gychwynnol, roeddwn i’n gwybod fy mod i mewn dwylo diogel.”

Roedd Rhian newydd ymgymryd â rôl newydd ym Met Caerdydd ac roedd eisoes yn cynllunio digwyddiad codi arian arall ar gyfer haf 2023 gan obeithio codi arian i brynu offer newydd a fyddai’n cefnogi gofal unrhyw un arall sy’n cael triniaeth yng Nghanolfan y Fron Caerdydd a’r Fro.

Yn wir i’w gair, trefnodd Rhian noson hyfryd o gerddoriaeth, rhannu straeon, arwerthiant a rafflau a gynhaliwyd ym mis Mehefin, a gyda chefnogaeth wych barhaus ei ffrindiau, ei theulu a’i chydweithwyr, cododd y swm syfrdanol o £18,300 yn y digwyddiad hwn (gan gynnwys rhodd o £5000 gan Sefydliad Tudor Pritchard). Roedd Rhian wedi blino’n lân ond roedd hi wrth ei bodd gan y gefnogaeth a dderbyniwyd.

Unwaith eto, cafodd Sue Dickson-Davies, arweinydd yr Elusen Iechyd ar gyfer Apêl Canolfan y Fron, a Lucy Satherley, Llawfeddyg Ymgynghorol yng Nghanolfan y Fron a roddodd driniaeth i Rhian, gyfle i gwrdd â Rhian i dderbyn y rhodd hyfryd hon. Mae’r cyfanswm a godwyd i gefnogi Rhian bellach wedi cyrraedd ymhell dros £23,000 a bydd yr arian hwn yn mynd yn uniongyrchol tuag at brynu peiriant uwchsain llaw newydd y gellir ei ddefnyddio yn y theatr mewn amser real tra bod llawdriniaethau’n cael eu cynnal, er mwyn galluogi llawfeddygon i nodi eu llawdriniaeth yn fwy cywir.

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Apêl Canolfan y Fron estyn ein diolch o galon i Rhian a phawb sydd wedi ei chefnogi. Bydd yr haelioni anhygoel hwn yn cael effaith mor uniongyrchol ar gleifion Canolfan y Fron yn y dyfodol ar eu taith triniaeth ac adferiad.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.