Rhoi

Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri’r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021

Tiwtoriaid ac Adnoddau Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro

Coleg Adfer a Lles Caerdydd a’r Fro, sydd wedi’i leoli yn yr Eglwys Newydd yw’r Coleg Adfer cyntaf i gael ei arwain gan Arweinydd Cyfoedion, ac mae’n ymrwymedig i gyflogi staff sydd â phrofiadau personol o heriau iechyd meddwl.

Canfuwyd bod dysgu cerddoriaeth, ac yn enwedig dysgu i ganu, yn effeithiol wrth alluogi pobl i ddysgu sgiliau trosglwyddadwy a strategaethau fel gwaith anadlu a rheoleiddio emosiynol, sy’n gallu helpu i wella iechyd meddwl a lles pobl. Mae gwneud gweithgareddau mewn grwpiau hefyd yn helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol, hyder a hunan-barch.

Darparwyd cyllid i gomisiynu Hyfforddwr Cyfoedion Cyswllt a chanwr proffesiynol â phrofiad o ddarparu cyrsiau i bobl â heriau iechyd meddwl, i greu cwrs wedi’i gyd-gynhyrchu ar gyfer myfyrwyr a staff y coleg. Nid oedd gan y coleg yr arbenigedd gofynnol i ddarparu cwrs canu ar gyfer lles, ond roedd gan y canwr roeddent wedi dewis brofiad blaenorol, ar ôl bod yn gweithio gyda phobl â dementia a chleifion oedd yn gwella o strôc.

Darparwyd cyllid hefyd i alluogi dau diwtor i gydgynhyrchu a darparu cyrsiau iechyd meddwl a lles i staff, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau o fewn y Coleg Adfer. Darparwyd cyllid pellach i gaffael a darparu deunyddiau celf i’w hanfon at fyfyrwyr, gan alluogi cyfranogiad o bell yn ystod y pandemig COVID-19. Caiff y tiwtoriaid, sydd â phrofiad personol o heriau iechyd meddwl, eu paru â gweithiwr iechyd proffesiynol, ac maent yn darparu dau gwrs y gall defnyddwyr gael mynediad atynt o bell naill ai yn yr ysbyty neu o gartref.

Mae’r prosiectau hyn yn arwydd o ymrwymiad y BIP i ymgysylltu, cydweithredu, cyd-gynhyrchu a gwrando ar bobl sydd â phrofiad personol o wasanaethau iechyd meddwl a’u gofalwyr. Roedd yr adran yn gobeithio gwella lles ei staff, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau drwy gyfleoedd addysgol gwell, gan alluogi cyfranogwyr i ddysgu sgiliau a gwybodaeth newydd y gellir eu cymhwyso at eu hadferiad eu hunain, yn ogystal ag adferiad eraill. Gallai hefyd gyfrannu’n gadarnhaol at les a chynhyrchiant staff, a bodlonrwydd o ran swydd. O ganlyniad i gyfyngiadau ynghylch y pandemig COVID-19, mae’r prosiectau hyn wedi cael eu hatal dros dro hyd nes ei bod yn ddiogel ac yn briodol eu gweithredu yn unol â’r canllawiau diweddaraf a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Newid yr Hen Fferyllfa i Ystafell Fflebotomi Cwbl Weithredol

Gwnaeth yr Adran Fflebotomi yn Ysbyty’r Barri waedu 43,204 o gleifion yn 2019 gan wasanaethu’r naw practis meddyg teulu yn y Barri, ynghyd â chleifion ychwanegol drwy’r gwasanaeth cleifion allanol.

Roedd yr hen Ystafell Waedu Fflebotomi bellter cerdded byr o’r Ystafell Aros Fflebotomi ac roedd yn cynnwys dwy gadair waedu. O ganlyniad i’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn ystod y pandemig COVID-19, roedd yr ystafell yn rhy fach i ddau waedwr gael gweithio ynddi, felly defnyddiwyd yr Ystafell Waedu Fflebotomi Pediatrig hefyd fel mesur dros dro. Cyn COVID, nodwyd y gofyniad i drydydd gwaedwr gael ymarfer ochr yn ochr â’r ddau waedwr arall, o ganlyniad i’r galw cynyddol am y gwasanaeth. Fodd bynnag, nid oedd yr ystafell bresennol yn ddigon mawr i dri gwaedwr weithio ynddi.

Darparwyd cyllid felly i adleoli’r Ystafell Waedu Fflebotomi i ystafell a oedd yn ddigon mawr i dri gwaedwr gael gweithio ynddi. Gwnaeth hyn helpu i wella boddhad staff a chleifion, lleihau amseroedd aros, a gwella ansawdd gofal cleifion o ganlyniad. Roedd yr ystafell a nodwyd wedi’i lleoli’n union gerllaw’r ystafell aros. Bydd hyn yn helpu i leihau pellter teithio i gleifion, a fydd yn arbennig o fuddiol i gleifion ag anawsterau symudedd, gan wella gofal i gleifion hefyd.

Pam ddylech CHI gefnogi’r Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy â ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.