Rhoi

Gwnaeth Grŵp Llais a phlant Derbyn Ysgol Gynradd Cogan godi arian yn ddiweddar i gefnogi Ein Dôl Iechyd, y man gwyrdd arloesol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Gwnaeth y plant ysgol gynhwyswyr bwydo adar, eu gwerthu yn yr ysgol, a rhoi’r elw i Ein Dôl Iechyd. Mae’r weithred hon o garedigrwydd nid yn unig yn cyfrannu at weledigaeth y ddôl ond hefyd yn hybu bioamrywiaeth yng ngerddi’r prynwyr.

Yn ogystal â chefnogi’r ddôl, dathlodd y plant y GIG yn troi’n 75, gan fynegi diolch i staff gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd gwneud y cynhwyswyr bwydo adar hefyd yn helpu’r plant i ymarfer sgiliau echddygol manwl a dathlu eu cyflawniadau.

Gweledigaeth Ein Dôl Iechyd yw sefydlu parc iechyd ecolegol i’r gymuned gyda’r bwriad o gynnig manteision i fywyd gwyllt, planhigion a phobl trwy ryngweithio cadarnhaol rhwng bodau dynol a’r amgylchedd. Mewn cydweithrediad â Down to Earth, mae’r sesiynau gwirfoddoli a gynhaliwyd yn Ein Dôl Iechyd wedi bod o fudd nid yn unig i’r dirwedd, ond hefyd i gleifion a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, yn ogystal â’r gymuned ehangach.

Hoffem ddiolch o galon i holl blant yr ysgol a staff a gyfrannodd at Ein Dôl Iechyd. Gwerthfawrogir eich cefnogaeth yn fawr.

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Ein Dôl Iechyd trwy eu dilyn ar Facebook (Ein Dôl Iechyd) ac ar X (@OurHealthMeadow).

Os hoffech gyfrannu at ein gweledigaeth, ewch i’r platfform codi arian rhyngweithiol i gyfrannu.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.