Yn ddiweddar, rhoddwyd cyllid Loteri’r Staff i Swyddfeydd Ardal y Gogledd-orllewin i brynu ffynnon ddŵr newydd, gyda’r nod o gadw aelodau prysur o staff yn iach a sicrhau eu bod yn yfed digon o ddŵr.
Mae tua 150 aelod o staff yn Swyddfeydd Ardal y Gogledd-orllewin, sy’n cynnwys Nyrsys Cymunedol, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Phersonél Gweinyddol. Mae’r ardal waith yn aml yn gynnes a chlòs ac mae’r ffaith fod dŵr oer ar gael yn helpu i sicrhau bod y staff yn yfed digon. Bu’n fuddiol iawn hefyd i staff cymunedol a oedd yn cael trafferth yn ail-lenwi eu poteli wrth ymweld â chleifion.
Mae cael y peiriant dŵr wedi bod yn hwb mawr i forâl y staff sy’n hynod brysur, ac sy’n aml yn rhoi anghenion eu cleifion o flaen eu hunain. Maent yn hapus iawn gyda’r peiriant newydd:
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld fod gennym ffynnon ddŵr yn ein swyddfeydd. Rwy’n yfed dŵr bob dydd, mae’n ffres, yn gyfleus, wedi’i hidlo a hefyd yn helpu i gefnogi’r amgylchedd trwy dorri i lawr ar y defnydd o boteli plastig. Rwy’n defnyddio fy mhotel fy hun bob dydd, syniad arbennig, diolch.”
“Rwy’n eithaf ffyslyd a ddim yn hoff o ddŵr ar dymheredd ystafell o’r tap, ac felly’n gorfod ceisio dod â dŵr oer o gartref. Mae’r ffynnon wedi bod yn achubiaeth oherwydd gallaf lenwi fy mhotel ddŵr yma mor aml ag rwy’n dymuno! Rwyf wedi bod yn yfed mwy o ddŵr gan fy mod yn gwybod bod y dŵr yn ffres, wedi’i hidlo ac yn oer. Peiriant gwych.”
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch iawn o gefnogi’r tîm gyda’r ychwanegiad newydd i Swyddfeydd Ardal y Gogledd-orllewin. Bydd darparu’r peiriant dŵr nid yn unig yn sicrhau bod y staff yn yfed digon, ond hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at eu lles corfforol a meddyliol.
Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymuno â Loteri’r Staff, a sut i wneud cais am arian i wella’ch adran trwy ymweld â’n gwefan.