Rhoi

Yn ddiweddar, roeddem yn falch iawn o gefnogi prosiect i ddarparu hyfforddiant ar effeithiau corfforol eiddilwch a dementia ar y corff, trwy gronfa Loteri’r Staff. Ochr yn ochr â chaffael offer efelychu arbenigol, mae hyfforddiant wedi’i ddatblygu ac, yn ddiweddar, fe’i darparwyd i Nyrsys a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSWs) yn ward Dwyrain 8, gan eu galluogi i gael cipolwg ar brofiadau cleifion a’r heriau y maent yn eu hwynebu oherwydd y cyflyrau hyn.

Wrth i’r boblogaeth heneiddio, rydym yn parhau i weld mwy o gleifion eiddil yn defnyddio gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Meddygaeth yw’r bwrdd clinigol mwyaf yn yr ysbyty ac mae llu o wasanaethau eiddilwch o fewn y gyfarwyddiaeth megis Clinig Esgyrn, Ysbyty Dydd, ECAS, Tîm Ymyrraeth i Bobl Eiddil, Clinig Dementia, Clinig Parkinson a Wardiau Gofal yr Henoed.

Gwnaeth arian Loteri’r Staff gefnogi’r broses o brynu siwtiau efelychydd oedran GERT, sy’n cynnig cyfle i brofi’r namau mwyaf cyffredin ymhlith pobl hŷn. Mae’r offer yn cynnwys gorchuddion esgidiau, sy’n efelychu cerddediad ansefydlog a all arwain at gwympo, a dyfeisiau sy’n cynnig cipolwg ar gyflyrau symudedd cyfyngol amrywiol megis poen gwddf, crymedd, poen cefn a phoen pen-glin.

Roedd yr offer a gaffaelwyd gan y Gyfarwyddiaeth Meddygaeth hefyd yn ystyried y cleifion sydd wedi cael strôc neu sy’n byw gyda chyflyrau megis clefyd Parkinson. Bydd yr efelychydd lledbarlys yn dangos gwendid yn dilyn strôc, ac mae’r efelychydd cryndod â menig ac uned reoli yn annog dealltwriaeth o gyflyrau fel Parkinson’s ar fywyd bob dydd. Mae tinitws ac efelychwyr golwg hefyd wedi’u caffael i addysgu aelodau o staff am y newidiadau synhwyraidd a chanfyddiadol a brofir yn aml gydag eiddilwch.

Mae’r efelychwyr oedran GERT yn cynnig persbectif unigryw na all hyfforddiant traddodiadol yn yr ystafell ddosbarth ei ddangos yn llawn. Drwy alluogi Nyrsys a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd i gael profiad uniongyrchol o’r heriau a ddaw yn sgil eiddilwch a’r problemau cyffredin a wynebir gan unigolion hŷn, bydd yr hyfforddiant yn gwella eu gallu i ddangos empathi tuag at gleifion. Bydd yr empathi newydd hwn yn eu harwain wrth ddarparu gwell cefnogaeth a gofal i’n cleifion hŷn sy’n agored i niwed.

Rydym wedi bod yn falch iawn o gefnogi’r broses o gaffael yr offer efelychu arbenigol a fydd yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i staff gofal iechyd ar fywyd bob dydd a heriau pobl hŷn sy’n profi dementia ac eiddilwch y corff. Bydd sicrhau bod hwn ar gael i’n cydweithwyr yn gwella’r cymorth y mae cleifion hŷn BIPCAF yn ei dderbyn yn y pen draw.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.