Rhoi

Bydd aelodau ymroddedig o’r Tîm Cymunedol Anafiadau i’r Ymennydd yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar 1 Hydref 2023 i godi arian ar gyfer Apêl Prop, sy’n cefnogi cleifion sy’n Adsefydlu wedi Anaf i’r Ymennydd.

Mae’r Neuroners (Kat, Jude, Jackie, Helen, Lowri ac Alex) a gweddill y Tîm Cymunedol Anafiadau i’r Ymennydd gwych i gyd yn angerddol iawn am gefnogi cleifion sydd wedi dioddef anaf i’r ymennydd, yn ogystal â’u teuluoedd. Maent wedi gweithio gyda chleifion yn ystod eu taith adsefydlu, ac eisiau codi arian ychwanegol i’w cefnogi ymhellach trwy eu teithiau adsefydlu unigol.

Mae Apêl Prop yn helpu i wella profiad cleifion a’u teuluoedd yn ystod y cyfnod adsefydlu, trwy ariannu gwaith a phrosiectau sy’n ychwanegol at gyllid arferol y GIG. Diolch i roddion hael, yn y gorffennol mae’r tîm wedi gallu ailwampio’r ystafell ddydd i gynnig amgylchedd mwy croesawgar, uwchraddio’r gegin lle mae cleifion yn gallu ailddysgu sgiliau coginio a sgiliau domestig eraill, ac uwchraddio caban sy’n ail-greu amgylchedd y cartref i helpu cleifion i ailaddasu rywfaint cyn cael eu rhyddhau.

Trwy ymgymryd â’r her o redeg Hanner Marathon Caerdydd eleni, mae’r tîm yn codi arian i gefnogi lles cleifion trwy brynu offer ychwanegol a chynnig profiadau sy’n cyfoethogi eu bywydau.

Mae’r Tîm Cymunedol Anafiadau i’r Ymennydd yn grŵp ysbrydoledig wedi’u huno gan eu hymroddiad gwirioneddol i wella bywydau pobl eraill trwy gamau cadarnhaol. Wrth iddynt gychwyn ar eu taith drwy’r ddinas yn Hanner Marathon Caerdydd, estynnwn ein dymuniadau gorau a diolchwn o galon iddynt am eu cefnogaeth i Apêl Prop.

Os hoffech chi wneud gwahaniaeth ym mywydau cleifion sy’n adsefydlu wedi anaf i’r ymennydd, byddai cyfraniad ar dudalen JustGiving y tîm yn cael ei werthfawrogi’n fawr. Gall eich cefnogaeth fod yn sbardun i drawsnewid y daith adsefydlu i’r unigolion hyn a’u teuluoedd.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.