Rhoi

Cwblhawyd murlun newydd yn yr Adran Ffisioleg Gardiaidd yn ddiweddar gan yr artist lleol Cathy May, a ariannwyd gan Gronfa Gardiaidd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dechreuodd y prosiect yn wreiddiol yn ôl ym mis Chwefror 2020, ond pan darodd COVID-19, cafodd ei ohirio tan nawr ac mae bellach wedi’i gyflawni.

Mae waliau’r Adran Ffisioleg Gardiaidd wedi’u haddurno â darlun hardd o galon, gyda gwinwydd, dail a rhagor o ddeiliant yn dod allan o’r rhydwelïau. Gellir ei gymharu ag ymrwymiad y Tîm Ffisioleg Gardiaidd i achub bywydau cleifion sydd â chlefyd y galon.

Artist o Gaerdydd yw Cathy May, a’i phrif gyfryngau yw creu printiau a phaentio. Mae hi’n derbyn comisiynau amrywiol ac yn gwerthu printiau a chlytiau ar ei safle Etsy, ac mewn marchnadoedd gwneuthurwyr lleol.

Dywedodd Cathy May: “Fe wnes i fwynhau creu’r murlun yn fawr, ac rwy’n gobeithio bod y cleifion a’r staff yn hoffi’r gwaith celf. Roedd yn braf iawn clywed sylwadau cadarnhaol gan rai aelodau o staff a oedd yn cerdded heibio.”

Diolch yn fawr iawn i Cathy am lonni’r Adran Ffisioleg Gardiaidd!

I brynu printiau a chlytiau Cathy May, ewch i’w thudalen Etsy: https://www.etsy.com/uk/shop/VivaLaMay

A gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith ar Instagram (@vivalamay_art) a Facebook (https://www.facebook.com/vivalamay13).

Os hoffech chi gael gwybod mwy am sut i weddnewid eich adran, e-bostiwch fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.