Rhoi

Yn dilyn y prosiect ‘Talking Point’ diweddar, a ariannwyd gan Loteri Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae murlun wedi’i osod yng ngardd gaeedig Ysbyty’r Barri, ynghyd â gwelliannau i’r ardal awyr agored, gan wahodd yr holl staff, cleifion ac ymwelwyr i fwynhau natur.

Mae’n amlwg bod cael eich amgylchynu gan natur yn dod ag ymdeimlad o dawelwch, yn enwedig i gleifion sy’n treulio oriau estynedig ar ward. Mae amser a dreulir yn yr awyr iach yn ysgogi’r synhwyrau ac yn cynnig seibiant i’w groesawu, gan gyfrannu’n gadarnhaol at adferiad cleifion a lles cyffredinol.

Mae’r ardal gaeedig yn Ysbyty’r Barri, a esgeuluswyd yn flaenorol, wedi cael ei hadfywio, ac mae bellach yn cynnwys dodrefn newydd a dau ddarn o waith celf lliwgar yn addurno ei waliau. Crëwyd y darnau o waith celf gan yr artist lleol Emma Jones yn dilyn prosiect ‘Talking Point’, a gyflwynwyd gan Breathe Creative ac a ariannwyd gan Loteri Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Cynhaliwyd sesiynau gyda chleifion ar Ward Sam Davies, y ward adsefydlu yn Ysbyty’r Barri, gan roi ffocws cadarnhaol i’r cleifion, gofalwyr a’r staff.

Mae’r rhan fwyaf o’r cleifion ar Ward Sam Davies yn oedrannus. Mae dementia ar lawer ohonynt, a gall eu harhosiad estynedig yn y ward arwain at deimladau o unigedd yn aml. Nod y prosiect oedd ennyn cryfder, gwytnwch, hiwmor a chreadigrwydd ymhlith y cyfranogwyr, gyda’u hatgofion cadarnhaol yn cael eu crisialu yn y murluniau.

“Roeddem yn arfer mynd i Brindels yn y Barri,

ar y Knapp, ger y môr.

Roeddem yn arfer mynd i ddawnsio yno bob wythnos,

gyda’n teulu cyfan.

Roedd yn wych, roedd ganddyn nhw bianydd a cherddoriaeth fyw”

“Aeth fy mrawd â mi i weld Elvis yng Nghaerdydd pan oeddwn yn 15 oed. Roedd yn

wych, ni fyddaf byth yn ei anghofio,

Ni allaf ddewis hoff gân dwi’n caru nhw i gyd

Roeddwn i’n gymaint o gefnogwr.”

“Roeddem yn arfer trochi ein peisiau mewn dŵr siwgr a’u rhoi

yn wlyb diferu ar y lein i’w gwneud yn galed. Fe wnaethon ni ddefnyddio’r

un dŵr siwgr i wneud i’n gwallt sefyll i fyny.”

Gwnaeth Emma Jones fynd ati’n fedrus i ymgorffori straeon personol cyfranogwyr yn ei gwaith celf, ochr yn ochr ag elfennau naturiol, gan drawsnewid yr ardal gaeedig yn ofod tawel a chroesawgar, mewn pryd ar gyfer y gwanwyn.

Mae prosiectau o’r fath, a gefnogir gan gronfa Loteri Staff Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yn chwarae rhan hanfodol wrth wella profiadau cleifion. Dysgwch fwy am brosiectau yn y gorffennol a sut i wneud cais am gyllid ar gyfer eich ward neu’ch adran yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.