Ar gyfer Mis Cenedlaethol y Galon ym mis Chwefror, rydym yn rhannu straeon ysbrydoledig a gwaith anhygoel yr Adran Gardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ganwyd Evan Price ym mis Tachwedd 2009 yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl beichiogrwydd iach a syml i’w fam, Siân. O fewn oriau o gael ei eni, roedd yn amlwg bod problem. Rhoddodd yr Athro Orhan Uzun ddiagnosis i Evan o nam strwythurol mawr ar y galon, o’r enw Trawsosodiad y Rhydwelïau Mawr (TGA). Gan nad yw llawdriniaethau ar y galon i blant yn cael eu cynnal yng Nghymru, daeth tîm o Ysbyty Brenhinol Plant Bryste draw i Ysbyty Athrofaol Cymru i sefydlogi Evan cyn ei gludo i Fryste.
Unwaith iddo gyrraedd Ysbyty Brenhinol Plant Bryste, cafodd Evan ei roi ar beiriant cynnal bywyd yn yr Uned Gofal Dwys Pediatrig (PICU) cyn ei lawdriniaeth ar y galon. Perfformiwyd y Llawdriniaeth Cyfnewid Rhydwelïol (Arterial Switch Operation) pan oedd Evan yn ddim ond naw diwrnod oed. Yn dilyn ei lawdriniaeth lwyddiannus dychwelodd Evan i PICU, ac yna i ward y galon ym Mryste, cyn cael ei drosglwyddo yn ôl i Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru (CHfW) i barhau â’i adferiad. Dioddefodd Evan o gyfnod o Supra-ventricular tachycardia tra yn CHfW ond llwyddodd yr Athro Dr. Orhan Uzun a Dr. Amos Wong i’w reoli.
Treuliodd bum wythnos gyntaf ei fywyd yn y ddau ysbyty cyn cael ei ryddhau adref am y tro cyntaf, ac erbyn hyn mae Evan yn parhau i fod dan ofal y gwasanaeth cardiaidd i blant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, o dan yr Athro Dr. Orhan Uzun, meddyg ymgynghorol sy’n gyfrifol am ei adolygiadau cardiaidd rheolaidd. Mae Evan bellach yn blentyn heini ac iach yn ei arddegau, sy’n chwarae pêl-droed a chriced i glybiau lleol Caerdydd.
Dywedodd Peter, tad Evan: “Mae’n fachgen ifanc hapus ac yn gwneud yn dda yn yr ysgol, ond mae ar ei hapusaf yn chwarae pêl-droed neu griced i dimau lleol, yn ogystal â chefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.
Nid ydym byth yn anghofio cymaint yr ydym yn ddyledus i dîm cardiaidd anhygoel y plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, dan arweiniad yr Athro Orhan Uzun. Maen nhw wir yn wych am yr hyn maen nhw’n ei wneud.”
Os hoffech gefnogi gwaith anhygoel yr Adran Cardioleg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, cliciwch yma i gyfrannu.