Agorwyd yr Hafan i Staff yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru nôl ym mis Chwefror 2021, ac mae wedi bod yn gwella ysbryd a lles y staff ers hynny. Diolch i gyllid gan Gareth ac Emma Bale, gweithiodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyflogeion ar greu ardal heddychlon i staff ymlacio, a darparu mynediad at ystod o gyfleusterau sydd â’r nod o wella eu lles emosiynol a meddyliol.

Mae’r cysyniad o Hafan i Staff yn deillio o’r gred y dylai fod gan staff y Bwrdd Iechyd le i gael seibiant a mynediad at amgylchedd sy’n caniatáu iddynt ymlacio a myfyrio er mwyn amddiffyn eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl. Mae pobl yn dewis gwneud hyn mewn ffyrdd gwahanol ac felly mae’r ardal wedi’i dylunio i fod â sawl pwrpas.
Mae gan yr Hafan i Staff ardaloedd ymgynnull sy’n cynnwys cegin i wneud diod boeth, byrddau a chadeiriau i eistedd a myfyrio, cyfleusterau cawod i olchi ar ddiwedd y dydd ac mae’n ardal di-ffonau symudol sy’n rhoi cyfle i feddyliau prysur ymlacio, hyd yn oed os yw am gyfnod byr yn unig. Mae’r ardal dawel yn annog staff i eistedd heb unrhyw ddifyrrwch ac ymlacio.
Mae gwaith celf hardd yn addurno’r waliau, sy’n helpu i ledaenu positifrwydd. Y gobaith yw y bydd dod â’r tu allan i mewn, trwy ddefnyddio lliwiau naturiol a phlanhigion ochr yn ochr â chelf ysgogol ac ysbrydoledig, yn helpu i greu ardal Zen.
Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro:
“Roedd yr Elusen Iechyd yn falch iawn o gefnogi’r staff trwy ddarparu Hafan i Staff. Mae’n hollbwysig, yn enwedig nawr yn ystod y pandemig, bod staff yn gallu cael seibiant o’u diwrnodau gwaith prysur mewn ardal dawel i adeiladu gwytnwch a myfyrio ar eu diwrnod er mwyn helpu i wella eu hiechyd a’u lles emosiynol.
“Hoffwn ddiolch i Grosvenor Interiors am eu cyfranogiad yn y prosiect hwn, gan ddod â’r weledigaeth o gelf a lles yn gweithio gyda’i gilydd yn fyw er budd ein haelodau o staff gwerthfawr iawn yn y GIG.

Dywedodd Nicky Bevan, Pennaeth Gwasanaethau Iechyd a Lles Cyflogeion:
“Mae gallu cael seibiant ac ymadfer yn hanfodol i gynnal ein lles yn ystod yr adegau hynod heriol yma. Nod yr Hafan yw rhoi’r cyfle i staff orffwys oddi wrth yr amgylchedd clinigol neu’r swyddfa a chael lle i fuddsoddi mewn rhywfaint o hunanofal. Mae’r gwaith celf hardd ar y waliau a’r effaith mae hyn yn ei gael ar dawelu’r amgylchedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i les cyffredinol ein staff.”
Cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan aelodau o staff hefyd sy’n parhau i ddefnyddio’r Hafan i Staff yn ddyddiol, gan nodi’r effaith gadarnhaol mae’r lle yn ei gael ar eu bywydau bob dydd:
Roedd Jamie Rowlands, nyrs a oedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn flaenorol, yn arfer defnyddio’r ystafell staff ar y ward yn ystod ei egwyliau. Mae bellach yn gweithio yn Adain Glan-y-Llyn ac yn gofalu am gleifion sydd angen adsefydlu er mwyn dychwelyd adref.
Dywedodd Jamie: “Mae’r hafan i staff yn le golau ac agored, gyda digon o le i eistedd. Mae’n fodern, yn lân ac yn newydd. Mae’r amgylchedd yn gwneud i mi ymlacio, mae’n rhoi lle braf i fi ddianc o’r ward, i ddod at fy hun a chael seibiant. Mae’r lle yn fy mharatoi i ymgymryd â’r her nesaf.”
Roedd Chloe Westall, myfyriwr nyrsio sy’n gweithio yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar hyn o bryd, yn arfer gweithio yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle y bu’n defnyddio’r ystafell seibiant ar ei ward a oedd â digon o le ar gyfer tri pherson ar y tro.
Dywedodd Chloe: “Mae’r hafan i staff yn le hyfryd i eistedd a chael seibiant. Mae’n bosibl ymlacio a thawelu yno. Mae ganddo bopeth sydd ei angen arna i i gael seibiant o sifft brysur. Rydw i’n treulio pob egwyl yno, oni bai ei bod hi’n braf ac yna rydw i’n eistedd y tu allan i gael rywfaint o awyr iach. Mae’n braf cael amgylchedd mor hyfryd i ddadflino ynddo.”

Mae Morgan Kneath yn Ffisiotherapydd wedi’i leoli yn Adain Glan-y-Llyn sy’n helpu i adsefydlu cleifion sy’n barod i ddychwelyd adref.
Dywedodd Morgan: “Rydw i wir yn mwynhau treulio amser yn yr Hafan i Staff. Rydw i wrth fy modd â’r gwaith celf ar y waliau, rydw i’n dwlu ar y dodrefn – rydw i bob amser yn mynd at y cadeiriau gogwyddo, gan mai nhw yw fy hoff rai. Mae’r lliwiau yn gwneud i mi ymlacio. Rydw i wir yn gwerthfawrogi’r ardal, mae’n ardal fawr o’i chymharu â’r ystafelloedd staff bach ar y ward ac mae hi mor agos at ble rydw i’n gweithio.”
Mae Sonia Harvey yn Weithiwr Cymorth Gofal Iechyd sy’n rhoi gofal i gleifion yn Adain Glan-y-Llyn.
Dywedodd Sonia: “Gan fy mod i’n gweithio yn Adain Glan-y-Llyn, fe wnes i a fy nghydweithwyr wylio’r Hafan i Staff yn cael ei hadeiladu. Ni allem gredu trawsnewidiad yr ardal. Mae’n ardal wych sy’n rhoi cyfle i ni dreulio amser oddi wrth amgylchedd y ward sy’n aml yn brysur iawn. Tra eich bod chi yn yr Hafan i Staff, gallech chi fod miloedd o filltiroedd i ffwrdd o’r ward gan ei bod yn ardal mor llonydd.”
Gallwch ddarllen rhagor am yr Hafan i Staff yn Adain Glan-y-Llyn yma.