Rhoi

Priododd Liz a’i gŵr Russ yn 2017 ar ôl i’r ddau golli eu partneriaid ar ddechrau’r 2000au. Yn anffodus, fe wnaethon nhw ddarganfod bod angen dialysis ar Russ a oedd yn golygu bod angen trawsblaniad aren arno. Liz oedd yr un a wirfoddolodd i fod yn rhoddwr aren, ac ar ôl blwyddyn o brofion helaeth, aethant ymlaen â’r driniaeth.

Dywedodd Liz: “Gwnaeth y ddau ohonom gytuno, ar 3 Medi, 2018, pan aethpwyd â’r ddau ohonom i’r theatr, ein bod yn deall popeth a fyddai’n digwydd, hyd at ble fyddai’r tiwbiau’n mynd i mewn ac allan. Gwnaeth hyn ein cysuro a gallwn ddweud yn onest nad oeddem yn nerfus, ac nid oeddem yn synnu bod popeth wedi mynd fel y cynlluniwyd.

Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus a nawr, rydyn ni’n byw bywyd llawn (ac eithrio cyfyngiadau Covid wrth gwrs).”

I ddiolch i’r Uned Arennol, a gefnogodd Liz a Russ drwy gydol y driniaeth, mae Liz wedi cofrestru i gymryd rhan yn Naid Fawr y GIG! Bydd hi’n plymio o’r awyr mewn tandem ar 9 Ebrill 2022.

I gefnogi profiad llawn adrenalin Liz, cyfrannwch i:

Santander Bank
Rhif y Cyfrif: 66525730
Cod didoli: 09-01-29*

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch yn fawr iawn i Liz am ei hymrwymiad anhygoel i gefnogi’r Uned Arennol.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Naid Fawr y GIG, ewch i https://healthcharity.wales/events/skydive-for-your-nhs/

* Mae hwn yn gyfrif codi arian ar wahân y mae Liz wedi’i greu i gefnogi’r achos.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.