Ddydd Sadwrn 12 Tachwedd, cymerodd John Rees ran yn y MoRun i godi arian ar gyfer y Gronfa Canser Niwroendocrinaidd (NET) newydd, gyda’i wraig Sarah Rees a landlord tafarn y Swan, Alun Smith.
Mae John yn codi arian i gefnogi Gwasanaeth NET De Cymru sy’n darparu gofal i bobl sy’n byw yn ardaloedd Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro, Aneurin Bevan, Bae Abertawe, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda a Phowys, sy’n cael diagnosis o ganser niwroendocrin.
Mae canserau niwroendocrin (NETs) yn brin ond yn dod yn gynyddol gyffredin, ac maent yn ganserau sy’n tyfu’n araf ar y cyfan, er y gall rhai fod yn ymosodol (carsinomâu niwroendocrin). Yn deillio o wahanol organau’r corff, maent yn tarddu fwyaf cyffredin yn y llwybr gastroberfeddol. Maent yn amrywiol, yn gymhleth ac yn gofyn am ofal unigol ac arbenigol.
I ddangos ei werthfawrogiad o Wasanaeth NET De Cymru, mae John wedi bod yn trefnu llawer o ddigwyddiadau mewn partneriaeth â thafarn leol, y Swan, a oedd hefyd eisiau cymryd rhan. Mae’r tîm wedi ymrwymo i godi £10,000 i gefnogi’r Gronfa NET. Ar wahân i’r MoRun, mae John wedi trefnu digwyddiad Calan Gaeaf yn flaenorol, a bydd yn cynnal raffl Nadolig ar 18 Rhagfyr yn y Swan, ac mae wedi codi swm anhygoel o £800 hyd yma! Rydym mor ddiolchgar i John a phawb sy’n cymryd rhan am eu hymroddiad i newid bywydau cleifion canser niwroendocrinaidd.
Os hoffech gyfrannu at gefnogi John a Gwasanaeth NET De Cymru, gallwch wneud hynny drwy fynd i www.healthcharity.wales/donate neu https://www.justgiving.com/campaign/NeuroendocrineTumours