Rhoi

Yn dilyn diagnosis canser, mae Hazel wedi penderfynu rhedeg Hanner Marathon Caerdydd i gefnogi Apêl Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Mae Hazel yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a gofal y mae wedi’i dderbyn gan y staff gwych yng Nghanolfan y Fron, Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae Hazel eisiau codi arian i helpu i barhau i ddarparu’r gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen ar gleifion canser.

“Byddai unrhyw swm yn cael ei werthfawrogi’n fawr i helpu i godi arian ar gyfer y gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud.”

Dyma’r ail her enfawr i Hazel eleni, ar ôl cwblhau 3 Chopa Cymru ym mis Mehefin gyda’i ffrind a’i chyd-glaf yng Nghanolfan y Fron, Karon Norton. Mae Hazel Dawson yn codi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro (justgiving.com)

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.