Rhoi

Mae Andrea Drury wedi bod yn codi arian ar gyfer Cronfa Gardioleg Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, yr holl ffordd o Sydney, Awstralia! Mae’r holl arian a godwyd er cof am Mr Toby Carrington, a fu farw’r llynedd.

Ddydd Gwener 3 Mehefin, trefnodd Andrea ddigwyddiad Parti Hwyl Ffitrwydd Dŵr, gan logi pwll lleol ar gyfer y digwyddiad â thocyn, gyda cherddoriaeth a hyfforddwyr gwych, a chyda ‘sizzle selsig’ (selsig mewn bara neu frechdan selsig, bwyd barbeciw poblogaidd o Awstralia) yn cael ei gynnig i bawb ar ddiwedd y parti. Roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, a chodwyd swm anhygoel o $3,600!

Bu Andrea yn byw yng Nghymru am 4 blynedd ac roedd yn agos at Mr Carrington a’i wraig, ac roedd am roi rhywbeth yn ôl er cof am ei ffrind.

Dywedodd Andrea: ‘Yn sicr mae’n teimlo’n grêt i fod yn gwneud rhywbeth er cof am ddyn arbennig a chodi arian at achos da iawn.”

Nid yw’r ymgyrch codi arian yn dod i ben yno, gan fod Andrea hefyd wedi cofrestru i redeg Marathon Llundain! Mae hi bellach yn hyfforddi ar ei gyfer yn Sydney yn ei chrys-t Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Andrea am ei chefnogaeth a’i hymroddiad gwirioneddol ysbrydoledig i roi yn ôl er cof am ei ffrind, Toby Carrington.

Gallwch gefnogi Andrea drwy gyfrannu at ei thudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/andrea-drury1

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.