Rhoi

Mae gwasanaeth tele-ecocardiograffeg brys a monitro rhythm y galon o bell wedi cael ei lansio ledled Cymru, ac mae wedi bod yn wasanaeth gwerthfawr iawn yn ystod pandemig COVID19.

Yn y llun o’r chwith i’r dde: Yr Athro Orhan Uzun, Michelle Graham, Mrs Claire Logan, Nyrs Gyswllt Arbenigol y Galon sy’n gweithio gyda’r Athro Uzun fel y brif nyrs sydd wedi’i henwi yn y tîm, er mwyn cynnal safonau’r gwasanaeth hwn o safbwynt llywodraethu clinigol.


Datblygodd yr Athro Orhan Uzun ddyfais ffrydio newydd ar y cyd ag EMRTS-Ambiwlans Awyr Cymru i Blant a Tactical Wireless, drwy gyllid UK Space Agency am 1/30 o gost yr offer presennol a gwael. Claire Logan yw nyrs gyswllt arbenigol y galon sy’n gweithio gyda’r Athro Uzun fel y brif nyrs sydd wedi’i henwi yn y tîm i gynnal safonau’r gwasanaeth o safbwynt llywodraethu clinigol. Mae’r prosiect hefyd wedi cael cymorth ariannol gan ymgyrch Martha’s Dancing Heart Campaign, sy’n cefnogi gwasanaethau Archwiliadau Cardioleg Bediatreg a Newyddenedigol Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Elusen Leon Montanari Heart Fund Charity, sydd hefyd yn cefnogi gwasanaethau Cardioleg Bediatreg ledled Cymru.

Cafwyd offer telefeddygaeth modern i gychwyn prosiect peilot yng Nghymru. Mae’r offer wedi achub bywyd cymaint o bobl drwy alluogi pediatregwyr a neonatolegwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth i gael barn arbenigol ar unwaith ar ddelweddau o sgan ar y galon ar gyfer plant sy’n wael, nad oes modd eu trosglwyddo ar unwaith, syn dioddef problemau calon difrifol.

Dywedodd yr Athro Uzun “Yn dilyn treialon llwyddiannus mewn achosion brys go iawn, rydym wedi gweld pa mor effeithiol yw’r model wrth gael ei ddefnyddio’n glinigol. Dyma’r model cyntaf erioed i ddangos sut mae modd defnyddio telefeddygaeth go iawn y tu hwnt i’w ddull telegynadledda sylfaenol, nid yn unig er mwyn gwella bywydau cleifion ond hefyd er mwyn arbed costau sylweddol i’r GIG.

“Nid oedd modd rhoi’r ddyfais 24 awr Holter na dyfeisiau monitro rhythm y galon symudol eraill i blant a oedd yn dioddef arhythmias yn ystod y pandemig. Gallai hyn fod wedi arwain at ganlyniadau difrifol o ran diagnosio a rheoli problemau rhythm plant. Felly, cafwyd cyllid unwaith eto i brynu a darparu dros 22 oriawr ECG diwifr i’w gwisgo a phlatiau ECG i’w defnyddio i ddarparu gofal a datblygu’r gwasanaeth tele-arhythmia.

“Hefyd o ran tele-ecocardiograffeg, rydym wrthi’n lledaenu ac yn dosbarthu’r gwasanaeth tele-arhythmia i bob ysbyty cyffredinol dosbarth yng Nghymru fel nad yw plant yn gorfod teithio i Gaerdydd i ddefnyddio’r offer. Mae Ysbyty Glangwili, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Tywysoges Cymru wedi cael offer tebyg ac mae ffisiolegwyr, nyrsys a doctoriaid y galon yn cael eu henwi ym mhob bwrdd iechyd. Unwaith eto, mae’r ymgyrchoedd codi arian yn talu am ddyfeisiau at y dibenion hyn.

“Y gwasanaethau telefeddygaeth brys effeithiol, unigryw a rhagorol hyn yw’r rhai cyntaf o’u math yng Nghymru, ac o bosibl yn y DU. O ganlyniad, mae gan arbenigwyr y galon, neonatolegwyr a phediatregwyr yng Nghymru ddarpariaeth monitro arhythmia a thele-ecocardiograffeg esmwyth diolch i weithgareddau ymgysylltu gwirioneddol rhwng cleifion a gweithwyr meddygol ac esiampl o gydweithio rhwng y cyhoedd a’r GIG. Rydym yn ddiolchgar dros ben am haelioni ac ymdrechion diflino’r unigolion anhunanol hyn a’u helusennau.”

Mae’r Athro Uzun, Michelle Graham a Julie Montanari wedi bod yn ganolog wrth fynd ati’n gyflym i gau’r bwlch yn y gwasanaeth arhythmia i blant, drwy ddangos gwir bartneriaeth rhwng dinasyddion a’r GIG. O ganlyniad, mae Uned y Galon i Blant Cymru wedi cael yr offer hyn er mwyn i blant gael eu defnyddio yn ystod y pandemig, heb amharu dim ar y gwasanaeth.

I ddarllen mwy am hanes Michelle Graham, ewch i:

https://www.justgiving.com/fundraising/marthasdancingheart

I ddarllen mwy am hanes Julie Montanari, ewch i: http://www.theleonheartfund.org/

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.