Rhoi

Ar ôl ychydig o fisoedd araf a blwyddyn ryfedd iawn, roedd James Joseph yn dymuno cael her newydd yn 2021 i’w helpu i godi allan o’i wely! Penderfynodd geisio codi arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Dyma oedd ganddo i’w ddweud “fe wnaethon nhw mor wych yn gofalu am fy mam y llynedd”.  Nod James oedd codi £500 drwy redeg i fyny Allt Custom House, Penarth, Bro Morgannwg nes byddai wedi cyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i uchder Everest (29,029 troedfedd).  Roedd James wedi neilltuo mis Ionawr i gyd iddo gwblhau’r her a hanner hon.

Dechreuodd James ar ei her ar 1 Ionawr 2021, a chafodd ddechrau da, yn rhedeg 7.28 milltir gan godi i uchder o 1847.09 troedfedd. Aeth ati ym mhob tywydd – gwynt, glaw, hindda, haul ac eira a llwyddodd i gwblhau’r her ar 28 Ionawr 2021 wedi iddo gyrraedd uchder o 29,029 troedfedd drwy redeg i fyny ac i lawr allt 84 troedfedd tua 345 o weithiau yn ystod y mis. Mae James wedi llwyddo i godi dros £1,000 i Apêl Canolfan y Fron, gan ragori ar ei darged gwreiddiol.

Ateb James i bwy bynnag sy’n gofyn iddo pam ei fod wedi dewis yr her hon oedd “Rwy’n ceisio peidio â gadael i bethau gael y gorau arnaf fi ar hyn o bryd. Yn hytrach na phoeni am bethau sydd y tu hwnt i’m rheolaeth, rwy’n canolbwyntio ar y pethau rwy’n gallu eu rheoli. Roedd gen i gynlluniau mawr ar gyfer 2020 a 2021 gyda cherddoriaeth a theithio, ond nawr rwy’n canolbwyntio ar geisio gwella fy hun yn 2021.”

Hefyd, dywedodd James “Byddwn i’n argymell bod pobl eraill yn rhoi cynnig ar yr her hefyd, er budd elusen yn ystod y cyfnod rhyfedd yma. Mae wedi bod mor braf teimlo fy mod wedi cyflawni rhywbeth nawr, ac mae cael rhywfaint o awyr iach ac ymarfer corff wedi gwneud byd o les i’m hiechyd meddwl!

“Hefyd, os oes gan bobl ddiddordeb mewn rhedeg, rwy’n aelod o gymuned hyfryd o redwyr o’r enw Running Punks!”

Mae timau’r Elusen Iechyd a Chanolfan y Fron wedi mwynhau gweld James yn cwblhau’r her bersonol iawn hon yn y mis diwethaf, a hoffent ddathlu ei lwyddiant anhygoel ar Ddiwrnod Canser y Byd 2021.

I gael cymorth i godi arian, neu i gael rhagor o wybodaeth am sut mae cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Apêl Canolfan y Fron, ewch i: www.healthcharity.wales neu anfonwch e-bost at fundraising.cav@wales.nhs.uk I gefnogi James drwy roi rhodd, ewch i: https://www.justgiving.com/fundraising/jamesjosephxvxeverestrun

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.