Rhoi

Mae Simone Joslyn, Pennaeth Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn angerddol am les staff a chleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac mae’n credu mewn cymryd camau cadarnhaol i wella bywydau. 

Gan ddechrau ei gyrfa yn y GIG fel nyrs iechyd meddwl dros 30 mlynedd yn ôl, bu Simone hefyd yn gweithio mewn Canolfannau Brechu Torfol COVID-19 yn ystod y pandemig, gan roi brechiadau, mewn ymdrech i’n cadw ni i gyd yn ddiogel rhag y feirws.

Nid yw angerdd Simone wedi’i gyfyngu i’r gwaith gwych y mae’n ei wneud yn ei rôl. Eleni mae hi’n cymryd rhan mewn sawl her sy’n ymestyn ar draws 2022. Ar ôl cwblhau Hanner Marathon Caerdydd ym mis Mawrth, bydd haf o hwyl Simone yn parhau gyda’r canlynol;

  • Ras 10k Bae Caerdydd – Mai
  • Naid Fawr y GIG – Mehefin
  • 5k y GIG Eich Ffordd Chi – Gorffennaf
  • 10k y Barri – Awst
  • 10k Caerdydd – Medi
  • Hanner Marathon Caerdydd – Hydref
  • Her y Tri Chopa yng Nghymru – Hydref

Bydd yr holl arian a godir drwy’r ymdrechion anhygoel hyn yn cefnogi Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro!

Meddai Simone:

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn i’m hiechyd meddwl a chorfforol fy mod yn gosod heriau i mi fy hun (rwy’n eithaf cystadleuol) a chael ychydig o hwyl yn codi arian ar gyfer y gwaith gwych y gall yr Elusen Iechyd ei wneud i gefnogi cleifion a staff. Rydw i mor lwcus i weithio ochr yn ochr â thîm gwych, o fewn sefydliad sy’n ymdrechu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi ac sy’n parhau i wneud hynny”.

Mae ymroddiad Simone yn wirioneddol ysbrydoledig, a hoffai tîm Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch yn fawr iawn am ei charedigrwydd a’i chefnogaeth barhaus – yn ystod oriau swyddfa a’r tu allan iddynt. Rydym wrth dy ochr yr holl ffordd i bob un o’r llinellau gorffen!

Os hoffech gyfrannu, gallwch wneud hynny drwy fynd i https://www.justgiving.com/fundraising/simone-joslyn1

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.