Rhoi

Bydd Jason Vowles, Swyddog Cyfathrebu Digidol ein Tîm Cyfathrebu, Celfyddydau, Elusen Iechyd ac Ymgysylltu, yn cwblhau heriau lluosog i godi arian ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).  Mae Jason wedi cofrestru ar gyfer digwyddiad 5K y GIG Eich Ffordd Chi ym mis Gorffennaf, yn ogystal â Hanner Marathon Caerdydd a Her Tri Chopa Cymru ym mis Hydref.

Mae CAMHS yn cefnogi plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd a’r Fro gyda’u hiechyd meddwl ac emosiynol. Maen nhw’n dîm amlddisgyblaethol yn y gymuned, ac yn gweithio’n agos gyda gweithwyr proffesiynol yn yr awdurdod lleol, ysgolion ac yn y sector gwirfoddol i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc yn y rhanbarth.

Dywedodd Jason:  “Gall llawer ohonom gydymdeimlo â’r cyfnodau anodd y gallech eu hwynebu fel person ifanc, ac mae’n aml gymaint yn waeth i lawer ohonynt. Roeddwn i’n casáu meddwl amdano, felly roeddwn i eisiau codi arian i gefnogi gwasanaethau sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd ar draws y BIP.

Dechreuais fy soffa i 5K ddiwedd mis Mawrth, methais orffen un 1km ar y dechrau ond gydag amser gallwn orffen 5km. Rydw i nawr yn rhedeg 15km yn wythnosol, ac yn anelu at ei wneud o dan 2 awr. Dwi’n mynd gam ymhellach i geisio cael swm codi arian uchel.

Rwy’n rhedeg Euros Sweepstake i Ferched i godi arian, gan obeithio cyfrannu paentiadau i godi arian, ac o bosibl rhai digwyddiadau eraill drwy gydol gweddill y flwyddyn hefyd.”

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Jason am ei ymroddiad i godi arian i’r adran, a dymunwn bob lwc iddo yn ei heriau anhygoel – byddwn yn dy gefnogi’r holl ffordd i’r llinellau terfyn!

Gallwch weld cynnydd hyfforddi Jason, a’i gefnogi trwy gyfrannu at ei dudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/Jason-Vowles-CAMHS

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.