Rhoi

Yn ôl unwaith eto gan fod cymaint o alw, yn ystod Medi a Hydref, bydd Pedal Power ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn darparu 14 o sesiynau gwirio cyflwr beiciau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Yn rhad ac am ddim i staff, bydd y gwiriadau diogelwch hanner awr o hyd hefyd yn cynnig mân atgyweiriadau ar y safle, a rhoddir cyngor os bydd angen atgyweiriadau mwy o faint.

Roedd yr adborth o’r sesiynau Gwirio Cyflwr Beiciau blaenorol yn wych, ac roedd y digwyddiadau’n llawn wythnosau ymlaen llaw. Mewn ymateb i’r ymgysylltu positif, caiff y sesiynau eu cynnig nawr ar draws mwy o safleoedd y BIP yn ystod Medi a Hydref. Y safleoedd sy’n cynnig y Gwiriadau Cyflwr Beiciau yw: YAC, YALl, Ysbyty Brenhinol Cymru, Ysbyty Dewi Sant a Thŷ Coetir.

Trefnwch eich lle nawr drwy glicio ar y dyddiadau wrth ymyl y rhestr o leoliadau isod, neu ewch i https://healthcharity.wales/events/. Caiff yr union leoliadau eu nodi ar dudalennu trefnu lle pob digwyddiad.

Dywedodd staff sydd wedi elwa ar y gwiriadau diogelwch yn flaenorol:

“Roedd y Gwiriad Cyflwr Beiciau yn wych.  Mae gennyf feic ail law felly roedd cael arbenigwr i archwilio’r beic yn rhoi tawelwch meddwl i fi. Roedd yn gyflym ac yn hawdd iawn, rhoddodd Craig lawer o gymorth a sicrwydd i fi.’ – Holly Tarren, Iechyd Plant Cymunedol

“Roedd Craig yn hawdd mynd ato ac yn gyfeillgar, a bu’n garedig iawn yn ateb unrhyw gwestiynau oedd gennyf ynghylch cynnal a chadw fy  meic yn y dyfodol. Siaradodd am wasanaethu’r beic a’r rhannau yr oedd wedi’u harchwilio, a rhoddodd gyngor ar bwysedd gwynt y teiars er mwyn sicrhau reid well.  Byddwn yn argymell Craig a Pedal Power i eraill.” – Neil Coleman, Technegydd Ffisiotherapi yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol y Fro

Gallwch ddarllen mwy am y sesiynau blaenorol yma, ac os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ysbyty Athrofaol Cymru – 9, 14 a 23 Medi, 12 Hydref

Ysbyty Athrofaol Llandochau – 28 Medi a 21 Hydref

Ysbyty Brenhinol Caerdydd – 16 Medi a 5 Hydref

Ysbyty’r Barri – 21 Medi a 7 Hydref

Ysbyty Dewi Sant – 30 Medi a 19 Hydref

Tŷ Coetir – 7 Medi a 14 Hydref

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.