Rhoi

Mae print finyl wedi’i greu i’w arddangos yn y Ganolfan Niwroadsefydlu er cof am Janice Davies. Gwnaeth merch Jan, Sarah, a’i theulu, godi’r arian ar gyfer y print a, gyda chefnogaeth Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, buont yn gweithio gyda Grosvenor Interiors i ddylunio finyl wal sy’n coffáu Jan.

Mae’r dyluniad terfynol yn cynnwys coeden wedi’i gwneud o galonnau lliwgar gyda’r geiriau ‘family from strong roots grow beautiful leaves’. Mae enw Jan hefyd wedi’i gynnwys yn y gwaith celf fel pe bai wedi’i gerfio ym moncyff y goeden.

Mae’r finyl wedi’i osod yn y Ganolfan Niwroadsefydlu, lle bydd yn dod â llawenydd a llonyddwch i’r amgylchedd clinigol ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr.

Diolch yn fawr iawn i Sarah a’r teulu am y rhodd caredig yma. Mae’r dyfyniad yn disgrifio’n berffaith y cariad parhaol sy’n cael ei ddangos gan deulu Jan, a fydd yn dod â chysur i eraill ac yn parhau i ysbrydoli pob un ohonom ar ward Gorllewin 10.

-Sophie Brown, Therapydd Iaith a Lleferydd

Os oes gennych ddiddordeb mewn comisiynu, neu roi gwaith celf yn anrheg ar gyfer un o safleoedd ein hysbytai er cof neu werthfawrogiad am rywun arbennig, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.