Rhoi

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch o galon i Fruitful Office am ddanfon ffrwythau bob wythnos i staff rheng flaen y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ystod pandemig COVID-19.

Mae Fruitful Office yn gwmni sydd wedi’i leoli yn Croydon, Llundain Fwyaf, a dyma’r cwmni ffrwythau mwyaf yn y DU. Yn garedig iawn a thrwy ei gleientiaid, mae wedi bod yn danfon 45 bocs o ffrwythau (tua 2160 cyfran) bob wythnos i staff BIP Caerdydd a’r Fro tan ddiwedd mis Chwefror 2021.

Dywedodd Neev Ahilan, Swyddog Gweithredol Gwasanaeth i Gwsmeriaid Fruitful Office “Mae ein cynllun rhoi wedi bod yn llwyddiant ers y cyfyngiadau symud cyntaf. Rydym wedi danfon dros 50,000 cyfran o ffrwythau i 18 o ysbytai yng Nghanol Llundain. Rydym wedi bod yn ystyried ymestyn allan i helpu ysbytai eraill ledled y DU i ddangos ein bod ni’n gwerthfawrogi staff rheng flaen y GIG sydd wedi bod yn gweithio mor galed yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eithriadol o ddiolchgar i Fruitful Office a wir yn gwerthfawrogi caredigrwydd y cwmni. Ar ran holl dimau’r GIG yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, diolch o galon i Fruitful Office am fod mor hael.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a sut gallwch chi helpu i gefnogi eich elusen GIG leol, ewch i wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro; https://healthcharity.wales,  anfonwch e-bost atom yn; Fundraising.cav@wales.nhs.uk neu ewch i’n gwefan i roi; https://healthcharity.wales/donate/

Rhagor o wybodaeth am Fruitful Office: www.fruitfuloffice.co.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.