Rhoi

Mae ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau wedi derbyn Gwobr Lawn Building with Nature*, y cyntaf o’i fath yng Nghymru!

Mae Safonau Building with Nature yn rhoi canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i gynllunwyr a datblygwyr, ar ddarparu seilwaith gwyrdd o ansawdd uchel. Mae’r Safonau yn rhoi natur wrth galon datblygiad mewn ffordd sy’n dda i bobl ac i fywyd gwyllt.

Mae ein Dôl Iechyd yn gwneud yn union hynny. Ein nod yw sefydlu parc iechyd ecolegol i’r gymuned gyda’r bwriad o gynnig manteision i fywyd gwyllt, planhigion a phobl trwy ryngweithio cadarnhaol rhwng bodau dynol a’r amgylchedd.

Ddydd Gwener 17 Mehefin, gwnaeth Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Suzanne Rankin, Pennaeth Rhaglen Elusen Iechyd a Chelfyddydau Caerdydd a’r Fro, Simone Joslyn, Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething AS, a’n partneriaid Down to Earth gyfarfod yn Ein Dôl Iechyd i gyhoeddi llwyddiant derbyn y wobr.

Dywedodd Vaughan Gething AS, “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gweld yr hyn y gallwn ei greu gyda’n gilydd yma a’r budd y bydd yn ei ddarparu i gleifion, staff a’r gymuned ehangach. Bydd datblygu rhywbeth ar y cyd â natur nid yn unig yn darparu mantais bioamrywiaeth net, ond yn darparu hyd yn oed mwy o dystiolaeth o sut y gall gofal iechyd awyr agored eich helpu chi, fi a phawb arall sydd angen ein GIG.”

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Suzanne Rankin, “Mae Ein Dôl Iechyd yn brosiect cwbl ysbrydoledig sy’n creu math newydd o le ar gyfer darparu gofal iechyd. Bydd yn creu cyfle i ni archwilio a datblygu dealltwriaeth o’r sylfaen dystiolaeth sy’n ymwneud â’r math hwn o ofal iechyd, a chreu gofod lle gall ein cymuned leol ymgolli’n llwyr mewn byd natur a phrofi’r dirwedd ryfeddol hon.”

Dywedodd Georgina Burke, Uwch Swyddog Codi Arian ar gyfer Ein Dôl Iechyd, “Mae’n anrhydedd llwyr ein bod wedi derbyn gwobr mor fawreddog ar gyfer Ein Dôl Iechyd. Rydym yn gobeithio parhau i ddarparu gofod sydd o fudd i fywyd gwyllt a’n cleifion, staff, a’r gymuned leol, a byddwn bob amser yn sicrhau bod iechyd a lles wrth wraidd y prosiect hwn.”

Mae ein Dôl Iechyd yn cael ei ariannu gan roddion a wneir i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Os hoffech gyfrannu, ewch i www.healthcharity.wales/donate

* yn amodol ar gymeradwyaeth ôl-adeiladu.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.